Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/09/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Cofnodion:

Nid oedd dim offerynnau i'w hystyried o dan yr eitem hon.

(13.30 – 13.35)

3.

Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

3.1

SL(6)644 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(13.35 -13.40)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 - trafodwyd eisoes

4.1

SL(6)617 - Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (…) a Rhan 5 (…) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.

(13.40 – 13.45)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyng-weinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn perthynas â chanslo cyfarfodydd y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar gyfer Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd, a'r Grŵp Rhyng-Weinidogol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig; a llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â chyfarfod sydd ar ddod o'r Grŵp Rhyng-Weinidogol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

(13.45 – 13.50)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

6.2

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Gweinidogion Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

6.3

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cyhoeddi'r Datganiad o Flaenoriaethau Strategol i Great British Energy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

6.4

Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ'r Cyffredin: Gosod Offerynnau Statudol dwyieithog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ'r Cyffredin.

(13.50)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill cyfarfod heddiw

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.50 – 14.05)

8.

Y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru): Trafod gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei ohebiaeth ddrafft at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

(14.05 – 14.15)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Troseddu a Phlismona

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2), a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.

(14.15 – 14.25)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Cynllunio a Seilwaith: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

(14.25 – 14.40)

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) a chytunodd ar ei adroddiad drafft ar Femorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4.

(14.40 – 14.50)

12.

Offerynnau statudol a drafodwyd yn flaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei ddadansoddiad o’r gwaith parhaus o fonitro offerynnau statudol, a chytunodd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, ac at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

(14.50 – 15.00)

13.

SL(6)615 - Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025: Trafod gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei ohebiaeth ddrafft i’w hanfon at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

(15.00 – 15.10)

14.

Adroddiad monitro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad monitro.

(15.10 – 15.20)

15.

Argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru: Cynnig ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cynigion i ymgysylltu â rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chyflawni argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a fydd yn llywio gwaith gwaddol y Pwyllgor, a chytunodd arno.

(15.20 - 15.30)

16.

Gohebiaeth gan Fforwm y Cadeiryddion at Bwyllgorau: Adolygu Effeithiolrwydd Pwyllgorau yn ystod y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol i'w cynnwys mewn ymateb i adolygiad Fforwm y Cadeiryddion.