Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2)

Cafodd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷr Arglwyddi ar 17 Rhagfyr 2024.

 

Mae enw hir y Bil yn nodi mai ei ddiben yw gwneud darpariaeth ynghylch gwasanaethau bysiau lleol ac ysgol; ac at ddibenion cysylltiedig.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Medi 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm No. 4) – Medi 2025 

 

Ar 15 Medi 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 200KB). 

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 318KB) ar 22 Medi 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm No. 3) – Gorffennaf 2025 

 

Ar 15 Gorffennaf 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 177KB). 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil, sef 22 Medi 2025 (PDF 55KB)

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 318KB) ar 22 Medi 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm No. 2) – Mai 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 154KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 23 Mai 2025.

 

Cytunodd (PDF 43KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bill Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 11 Gorffennaf 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 231KB) ar 2 Gorffennaf 2025.

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 4 Awst 2025 (PDF 252KB). 

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 166KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 11 Mawrth 2025.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 9 Mai 2025 (PDF 42KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 214KB) ar 9 Mai 2025. Ymatebodd (PDF 206KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 2 Gorffennaf 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei adroddiad (PDF 105KB) ar 9 Mai 2025. Ymatebodd (PDF 164KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 2 Gorffennaf 2025.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/03/2025