Gwaith monitro parhaus o offerynnau statudol a ystyriwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Gwaith monitro parhaus o offerynnau statudol a ystyriwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ym mis Ionawr
2025, cytunodd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y byddai’n monitro pryd a sut y
mae Llywodraeth Cymru yn cynnig offerynnau statudol Cymru newydd i gywiro
gwallau mewn offerynnau statudol a nodwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor yn ei
adroddiadau i’r Senedd.
Bydd y Pwyllgor
yn diweddaru ei ddadansoddiad yn rheolaidd ac yn ystyried yn rheolaidd pa
gamau, os o gwbl, y gallai fod angen eu cymryd.
Ionawr 2026
Yn ei gyfarfod ar
26
Ionawr 2026, trafododd y Pwyllgor ei waith monitro parhaus o offerynnau
statudol lle nodwyd gwallau.
Cytunodd y
Pwyllgor i rannu eto ei ddadansoddiad diweddaraf gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r
Gweinidog Cyflawni.
Medi 2025
Yn ei gyfarfod ar
22
Medi 2025, trafododd y Pwyllgor ei waith monitro parhaus o offerynnau
statudol lle nodwyd gwallau.
Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, mewn perthynas â chamgymeriad drafftio posibl gydag offeryn
statudol sydd o fewn eu cylch gwaith.
Yn ogystal,
cytunodd y Pwyllgor i rannu eto ei ddadansoddiad diweddaraf gyda’r Cwnsler
Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.
Mai 2025
Yn ei gyfarfod ar
6
Mai 2025, trafododd y Pwyllgor ei waith monitro parhaus o offerynnau
statudol y nodir gwallau ynddynt.
Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros
Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac at y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
mewn perthynas â gwallau mewn offerynnau statudol o fewn eu priod gylchoedd
gwaith.
Ar ben hynny,
cytunodd y Pwyllgor i rannu ei ddadansoddiad wedi'i ddiweddaru â’r Cwnsler
Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.
Ionawr 2025
Yn ei gyfarfod ar
13
Ionawr 2025, trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol a ystyriwyd gan y
Pwyllgor yn ystod 2024 lle mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd yn cyflwyno
offeryn diwygio i gywiro gwallau y mae’r Pwyllgor wedi’u nodi.
Cytunodd y
Pwyllgor y bydd yn ysgrifennu at Weinidogion perthnasol Cymru mewn perthynas ag
offerynnau pan fo’n ymddangos bod angen offerynnau diwygio.
At hynny,
cytunodd y Pwyllgor y dylid rhannu ei ddadansoddiad gyda’r Cwnsler Cyffredinol
er gwybodaeth.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/02/2025
Dogfennau
- Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, 30 Ionawr 2026
PDF 285 KB - Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, 26 Medi 2025
PDF 293 KB - Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 26 Medi 2025 - SL(6)598
PDF 102 KB - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, 4 Mehefin 2025
- Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, 9 Mai 2025
PDF 313 KB - Llythyr at y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, 9 Mai 2025 - SL(6)457
PDF 113 KB - Llythyr at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, 9 Mai 2025 - SL(6)503
PDF 114 KB - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, 28 Ebrill 2025
PDF 276 KB - Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, 16 Ionawr 2025
PDF 358 KB - Llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, 30 Ionawr 2025 - SL(6)507
PDF 158 KB - Llythyr at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, 16 Ionawr 2025 - SL(6)507
PDF 106 KB - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 29 Ionawr 2025 - SL(6)466
PDF 144 KB - Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 16 Ionawr 2025 - SL(6)466
PDF 105 KB