Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/05/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS.

2.

Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

2.1

SL(6)610 - Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2025

Gorchymyn

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

3.1

SL(6)606 - Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfarfodydd: y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dwristiaeth a'r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Busnes a Diwydiant.

4.2

Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru: Adroddiad Blynyddol y Cytundeb Treftadaeth Geltaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

4.3

Gohebiaeth a Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ymestyn Cyfnodau Pontio) (Diwygio) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

4.4

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Dirymu) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

4.5

Gohebiaeth â’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Ymrwymiadau i gywiro offerynnau statudol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

5.2

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau Cyflogaeth.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau Cyflogaeth.

(09.25)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(09.25 - 09.35)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(09.35 - 09.50)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau i’w cytuno y tu allan i’r Pwyllgor.

(09.50 - 10.00)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Hawliau Cyflogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(10.00 - 10.10)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Data (Defnydd a Mynediad)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd ar ei adroddiad drafft.

(10.10 - 10.20)

11.

Blaengynllunio Gwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr haf.

(10.20 - 10.25)

12.

Yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â Charchar EF y Parc

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad â Charchar EF y Parc a chytunwyd i ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(10.25 - 10.30)

13.

Adroddiad monitro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad monitro.

(10.30 - 10.40)

14.

Offerynnau statudol a drafodwyd yn flaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ei waith parhaus o fonitro offerynnau statudol, a chytunodd i ysgrifennu at: y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni; y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig; a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.

(10.40 - 10.50)

15.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cynllunio a Seilwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.