Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 14.30) |
Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Debra Carter, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Diwygio Cyllid – Uwch-swyddog Cyfrifol y Bil Simon Tew,
Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru Ruth Cornick,
Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol. |
|
(14.35 - 14.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)422 - Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)421 Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(14.40 - 14.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)406 - Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd. |
||
SL(6)417 - Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(14.45 - 14.50) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
(14.50 - 14.55) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau: Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau a'r ddeiseb roedd yn tynnu
sylw ati. Nododd hefyd yr ohebiaeth gan y Deisebydd at y
Pwyllgor Deisebau |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Bil Rhentwyr (Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Cyllid: Bil Seilwaith (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor
Cyllid. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Arferion gosod preswyl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
(14.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.55 - 15.15) |
Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a chytunwyd i
ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau atodol. |
|
(15.15 - 15.30) |
Ymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE: Diweddariad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y pwyllgor ei ddull
gweithredu i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiad ar
lywodraethiant y DU a'r UE, a chytunodd arno
|
|
(15.30 - 15.45) |
Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021–2026 – Adroddiad blynyddol 2022-2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol a chytunodd i
wahodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i sesiwn graffu
gyffredinol yn y flwyddyn newydd, pryd y gellid rhoi ystyriaeth bellach i'r
Adroddiad Blynyddol. |
|
(15.45 - 16.00) |
Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan: Ymateb drafft i’r Pwyllgor Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i weithdrefnau’r
Pwyllgor Busnes ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol
y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan. |
|
(16.00 - 16.05) |
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ei Flaenraglen Waith a chytunodd arni. |