Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Room 4 - Tŷ Hywel

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/10/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan James Evans AS. Dirprwyodd Peter Fox AS ar ei ran

(13.30 - 14.30)

2.

Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Nick Howard, Uwch Gyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

Richard Clark, Pennaeth Ansawdd Amgylchedd Lleol, Llywodraeth Cymru

Hefin Gill, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

 

Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd  

Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).

Gohiriwyd y Pwyllgor am ychydig amser yn ystod y sesiwn dystiolaeth oherwydd materion technegol o ran cysylltiad rhyngrwyd y Cadeirydd.

(14.30 - 14.35)

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

3.1

SL(6)257 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

The Committee noted the response from the Welsh Government.

3.2

SL(6)258 - Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(14.35 - 14.40)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

4.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth - System Gwybodaeth am Feddyginiaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

(14.40 - 14.45)

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Gohebiaeth gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac Oxfam Cymru: Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod  (WEN) ac Oxfam Cymru ar y Cerdyn Sgorio Ffeministaidd ar gyfer 2022.

(14.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(14.45 - 14.55)

7.

Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a chytunwyd ar y materion allweddol sydd i’w cynnwys yn yr adroddiad drafft. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am eglurder ynghylch ystyriaeth y Senedd o’r Bil yng Nghyfnod 1.

(14.55 - 15.15)

8.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymatebion y rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o’i alwad wedi’i thargedu am dystiolaeth ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

(15.15 - 15.25)

9.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.

(15.25 - 15.35)

10.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 26 Medi 2022, a chytunodd arno.

(15.35 - 15.55)

11.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith a chytunwyd ar ei ddull ar gyfer ystyried Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Llywodraeth y DU.

12.

Adroddiad blynyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad blynyddol, yn amodol ar fân ddiwygiadau, a chytunodd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ar ddyddiad a gadarnheir ym mis Tachwedd 2022.