Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/06/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. Dirprwyodd James
Evans AS ar ei ran. |
|
(13.30-13.35) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru: Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog. |
||
(13.35-13.55) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd: Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Caffael Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefn: Cysylltiadau rhyngseneddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor
Gweithdrefn. |
||
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Gorchymyn Adolygu Harbwr Abertawe (Cau Doc Tywysog Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd. |
||
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.47, gohiriodd y Cadeirydd y
cyfarfod am 19 munud oherwydd materion technegol. |
||
Gohebiaeth gan y Llywydd: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd. |
||
Gohebiaeth â'r Llywydd a'r Gwir Anrhydeddus Syr Oliver Heald QC AS: cyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Llywydd ac
Arweinydd a Chyd-gadeirydd Dirprwyaeth y DU i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y
DU-UE. |
||
Gohebiaeth gan Bwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi: Cytundeb Rhyngwladol - Confensiwn ar y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Cymhorthion Mordwyaeth Forol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor
Cytundebau Rhyngwladol Tŷ’r Arglwyddi. |
||
Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwaharddiad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ar gyfer plastigau untro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng Cadeirydd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a'r Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
(13.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(13.55-14.10) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein, yn
ogystal â’r Nodyn Cyngor Cyfreithiol a'r ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chytunodd i drafod ei adroddiad yn ystod
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(14.10-14.20) |
Trafod cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn: ·
Confensiwn Cyngor Ewrop ar Atal a
Threchu Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig (“Confensiwn Istanbwl”) ·
Y cytundeb rhwng y DU a Ffrainc ar
gydweithio ar faterion sy’n gysylltiedig â diogelwch morol a diogelwch
porthladdoedd, ac yn benodol mewn perthynas â llongau sy’n cludo teithwyr yn y
Sianel (“Cytuniad Diogelwch Morwrol”). Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y
cytundebau hyn yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(14.20-14.40) |
Cytundebau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papur gan Dr Gregory Davies. |
|
(14.40-15.00) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor faterion sy’n gysylltiedig â'i
flaenraglen waith. |