Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/05/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

13.30-13.35

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

2.1

SL(6)198 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

13.35-13.40

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

3.1

SL(6)200 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Cadarnhaol

13.40-13.45

4.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(6)188 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

4.2

SL(6)190 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ac, mewn sesiwn breifat, cytunodd i ofyn am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru.

 

13.45-13.50

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Polisi porthladdoedd rhydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, y datganiad i'r wasg a'r Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi.

 

5.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol - Grŵp Rhyng-weinidogol (GRW) ar gyfer Tai, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

13.50-13.55

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Gohebiaeth gan y Llywydd at Arweinydd a Chyd-gadeirydd Dirprwyaeth y DU i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a'r UE: Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU yr UE, Brwsel 12-13 Mai 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Llywydd ac Arweinydd a Chyd-gadeirydd Dirprwyaeth y DU i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a'r UE ynghylch cyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE, lle cynrychiolwyd y Senedd gan Alun Davies AS ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a Sam Kurtz AS ar ran Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

 

 

6.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

6.3

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Eithriad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ar gyfer plastigau untro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i’r Gweinidog Newid Hinsawdd:

 

6.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

6.5

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Cymhorthion Mordwyaeth Forol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac, mewn sesiwn breifat, cytunodd i dynnu sylw Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi at yr ohebiaeth.

 

6.6

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Araith y Frenhines 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a'r Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ac, mewn sesiwn breifat, cytunodd i ymateb i'r Cwnsler Cyffredinol yn gofyn am ragor o wybodaeth cyn iddo ddod i’r Pwyllgor ar 20 Mehefin.

 

13.55

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

8.

Araith y Frenhines 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur briffio ymchwil ar Araith y Frenhines 2022.