Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 114(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Am
14.29, siaradodd Darren Millar AS am sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn
ystod ei ymson ag Arweinydd yr Wrthblaid yn ystod Cwestiynau’r Arweinwyr, yn
ymwneud â chyhoeddi cyfrifon blynyddol Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf.
Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud y byddai’n archwilio’r pwyntiau a wnaed
ac yn cywiro’r cofnod pe bai angen. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.30 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.51 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar gyfarfod ag undebau llafur y GIG Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.27 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Blaenoriaethau Economaidd a Chysylltiadau Llywodraeth y DU Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.57 |
|||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin - WEDI'I OHIRIO TAN 24 IONAWR Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 NDM8179 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun
Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2022. Dogfennau Ategol Cofnodion: Ar gais y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol,
cynigiodd y Llywydd symud i eitem 9 ar yr agenda, cyn dychwelyd at eitem 8. Nid
oedd dim gwrthwynebiad gan yr Aelodau. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU NDM8176 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Banc Seilwaith y DU i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2022 a
gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf
2022 a 30
Tachwedd 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Banc Seilwaith y DU (Saesneg
yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.12 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8176 Rebecca Evans (Gŵyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Banc Seilwaith y DU i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2022 a 30 Tachwedd 2022 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2. Bil Banc Seilwaith y
DU (Saesneg
yn unig) Dogfennau
Ategol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(0 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) - WEDI'I OHIRIO TAN 14 CHWEFROR NDM8174 Julie James
(Gorllewin Abertawe) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Awst 2022 a
gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2022,
17 Tachwedd
2022 a 6
Rhagfyr 2022, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Y Bil Tai
Cymdeithasol (Rheoleiddio) (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
|||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod NDM8175 Julie James
(Gorllewin Abertawe) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Ddeddf Esgyll Siarcod i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Y Bil Esgyll
Siarcod (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8175 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Ddeddf Esgyll Siarcod i’r graddau y maent yn dod
o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Y Bil Esgyll Siarcod (Saesneg yn unig) Dogfennau
Ategol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(45 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) NDM8177 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2022 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Technoleg Enetig (Bridio
Manwl) (Saesneg yn unig) Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.51 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8177 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Technoleg Enetig
(Bridio Manwl) (Saesneg yn unig) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
(45 munud) |
Dadl Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) NDM8178 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18: 1. Yn cytuno y dylai Bil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi. Gosodwyd Bil yr Amgylchedd
Hanesyddol (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Senedd ar 4 Gorffennaf 2022; Gosodwyd
adroddiad Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Fil yr
Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) gerbron y Senedd ar 23 Rhagfyr 2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.19 NDM8178 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18: 1.
Yn cytuno y dylai Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo fel Bil
Cydgrynhoi. Gosodwyd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd
ar 4 Gorffennaf 2022; Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) gerbron y
Senedd ar 23 Rhagfyr 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.41 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |