Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Caiff Aelodau’r
Senedd ofyn Cwestiynau Llafar i’r Prif Weinidog am unrhyw fater sy'n dod o fewn
ei gyfrifoldeb.
Bydd y Prif
Weinidog fel arfer yn ateb cwestiynau yn y Cyfarfod
Llawn am 13.30 ar ddyddiau Mawrth.
Bydd y Swyddfa
Gyflwyno yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno
cwestiynau. Caiff pob Aelod, heblaw am arweinwyr y pleidiau, gynnwys ei enw yn
y balot.
Rhaid i'r Aelodau
a ddetholir yn y balot gyflwyno cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y
dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap
ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd arweinwyr y
gwrthbleidiau yn cael eu galw i ofyn cwestiynau heb hysbysiad i’r Prif Weinidog
yn ystod yr eitem, fel arfer ar ôl cwestiwn 2.
I gael rhagor o
wybodaeth am y mathau o fusnes a gaiff eu cyflwyno, y trawsgrifiadau diweddaraf
ac unrhyw fusnes sydd wedi'i gyflwyno, gallwch chwilio'r Cofnod.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/05/2021