Cyfnod Pleidleisio
Os, ar ddiwedd eitem o fusnes yn y Cyfarfod Llawn, nad yw’r
Senedd yn cytuno ar gynnig neu welliant heb wrthwynebiad, caiff y pleidleisio
ar yr eitem honno ei ohirio i eitem ddiweddarach ar yr agenda. Mae’r eitem hon
yn ymddangos ar yr agenda fel y Cyfnod Pleidleisio.
Fel arfer, bydd pleidlais yn cael ei bwrw yn y Cyfarfod
Llawn gan ddefnyddio system bleidleisio electronig. Gall yr Aelodau hefyd
bleidleisio mewn Cyfarfod Llawn neu gyfarfod pwyllgor drwy godi eu dwylo, neu
drwy alw eu henwau yn ffurfiol os bydd gofyn gwneud hynny.
Cyhoeddir crynodeb o sut y pleidleisiodd Aelodau yn ystod
Cyfarfod Llawn fel Crynodeb o Bleidleisiau ar
dudalen y cyfarfod, fel arfer o fewn 30 munud i ddiwedd y cyfarfod.
Mae canllawiau manwl ar bleidleisio, gan gynnwys
Pleidleisio drwy Ddirprwy, ar gael yn y Canllawiau
ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd - a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan
Reol Sefydlog 6.17 (PDF, 1MB).
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021