Pobl y Senedd

Rebecca Evans AS

Rebecca Evans AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Gŵyr

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Rebecca Evans yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Rebecca Evans yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Chwefror 202...

I'w drafod ar 20/02/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn ‌y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor), i’r graddau...

I'w drafod ar 20/02/2024

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11...

I'w drafod ar 05/09/2023

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bill Ardrethu Annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd...

I'w drafod ar 05/09/2023

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caffael sy’n ymwneud ag ymchwiliadau gwahardd, gwaharddiadau oherwydd d...

I'w drafod ar 27/06/2023

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caffael, sef "Treaty state suppliers", “Trade disputes” a darpariaethau...

I'w drafod ar 21/03/2023

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rebecca Evans AS

Bywgraffiad

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Cafodd Rebecca ei hethol gyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011 i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, daeth yn Aelod Cynulliad dros etholaeth Gŵyr.

Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 fe’i penodwyd yn Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018 fe ymunodd â’r Cabinet fel y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Ar 13 Mai 2021 cafodd Rebecca ei phenodi’n Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Hanes personol

Cafodd Rebecca ei haddysgu ym Mhrifysgol Leeds, lle astudiodd Hanes. Cafodd radd Meistr mewn Athroniaeth mewn Astudiaethau Hanesyddol o Brifysgol Caergrawnt hefyd.

Mae Rebecca yn byw yng Ngŵr gydai gŵr.

Cefndir proffesiynol

Cyn dod yn Aelod Cynlluniad, roedd Rebecca yn gweithio yn y trydydd sector.

Hanes gwleidyddol

Yn y Pedwerydd Cynulliad, penodwyd Rebecca i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin. Bun gwasanaethu hefyd ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Hefyd, yn y Pedwerydd Cynulliad, Rebecca oedd Cadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Anabledd, Iechyd Meddwl, a Nyrsio a Bydwreigiaeth; ac roedd yn is-gadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Ffydd, Awtistiaeth, a Chwrw a’r Dafarn. Roedd yn swyddog yn sawl Grŵp Trawsbleidiol arall, gan gynnwys Cyflyrau Niwrolegol, a Phobl Hŷn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rebecca Evans AS