Manylion y lleoliad

Y Siambr, Y Senedd

Cyfarwyddiadau: Gall y cyhoedd gyrraedd y Senedd drwy ddringo’r grisiau a’r rampiau ar y plinth o flaen yr adeilad neu drwy ddefnyddio’r lifft ar gornel flaen yr adeilad ger Canolfan y Mileniwm. Pa bynnag lwybr a ddewisir, byddwch yn cyrraedd y plinth a’r brif fynedfa. Unwaith y byddwch y tu mewn i’r Senedd, bydd staff diogelwch a staff tywys ar gael i roi cymorth fel bo’r angen. Mae cadeiriau olwyn ar gael i’r rheini sydd eu hangen.

I gyrraedd yr ystafell: Ewch at y dderbynfa ar y chwith, a thrwy’r camau gwirio gyda’r swyddogion diogelwch. Cerddwch yn union i fyny heibio’r man eistedd, ac ewch ymlaen at ben draw’r adeilad ble y byddwch yn dod at y drysau sy’n eich arwain i mewn i Siambr Hywel.

Mapiau Lleoliad:  Sut i gyrraedd y Senedd , Mynd i gyfarfod Pwyllgor

Cyfeiriad: 
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Prif Ffôn: 0300 200 6565