Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 114(v6) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Am 14.29, siaradodd Darren Millar AS am sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn ystod ei ymson ag Arweinydd yr Wrthblaid yn ystod Cwestiynau’r Arweinwyr, yn ymwneud â chyhoeddi cyfrifon blynyddol Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf. Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud y byddai’n archwilio’r pwyntiau a wnaed ac yn cywiro’r cofnod pe bai angen.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.30

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.51

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar gyfarfod ag undebau llafur y GIG

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

(30 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog yr Economi: Blaenoriaethau Economaidd a Chysylltiadau Llywodraeth y DU

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

(0 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin - WEDI'I OHIRIO TAN 24 IONAWR

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

(30 munud)

7.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

(15 munud)

8.

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023

NDM8179 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Ar gais y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, cynigiodd y Llywydd symud i eitem 9 ar yr agenda, cyn dychwelyd at eitem 8. Nid oedd dim gwrthwynebiad gan yr Aelodau.

(15 munud)

9.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU

NDM8176 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Banc Seilwaith y DU i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2022 a 30 Tachwedd 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Banc Seilwaith y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Adroddiad a Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.12

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8176 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Banc Seilwaith y DU i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2022 30 Tachwedd 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Banc Seilwaith y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

10

51

Derbyniwyd y cynnig.

(0 munud)

10.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) - WEDI'I OHIRIO TAN 14 CHWEFROR

NDM8174 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Awst 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2022, 17 Tachwedd 2022 a 6 Rhagfyr 2022, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.  

Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, Memorandwm Rhif 2 a Rhif 3)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 2)

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

(30 munud)

11.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod

NDM8175 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Ddeddf Esgyll Siarcod i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Esgyll Siarcod (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8175 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Ddeddf Esgyll Siarcod i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Esgyll Siarcod (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

10

51

Derbyniwyd y cynnig.

(45 munud)

12.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)

NDM8177 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8177 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

36

51

Gwrthodwyd y cynnig.

(45 munud)

13.

Dadl Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

NDM8178 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18:

1. Yn cytuno y dylai Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.

Gosodwyd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 4 Gorffennaf 2022;

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) gerbron y Senedd ar 23 Rhagfyr 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.19

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

14.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.41

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: