Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 02/12/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
14.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AC. O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Suzy
Davies AC fuddiant mewn perthynas ag eitem 2.1. |
|
14.30-14.35 |
Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-33-10 – Papur 1 –
Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(5)470 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 CLA(5)-33-19
- Papur 2 - Llythyr
gan Gymdeithas y Landlordiaid Preswyl, 22 Tachwedd 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan Gymdeithas y Landlordiaid
Preswyl. |
||
14.35-14.40 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)471 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 CLA(5)-33-19
– Papur 3 –
Adroddiad CLA(5)-33-19
– Papur 4 –
Gorchymyn CLA(5)-33-19
– Papur 5 –
Memorandwm Esboniadol CLA(5)-33-19
- Papur 6 - Llythyr gan
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 14 Tachwedd 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
14.40-14.45 |
Papur(au) i’w nodi |
|
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cod asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth CLA(5)-33-19 - Papur 7 -
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 21 Tachwedd 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog
Cyllid a’r Trefnydd, a chytunodd i ofyn am wybodaeth bellach am y broses ar
gyfer adolygu'r cod asesiad effaith reoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth. |
||
Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) CLA(5)-33-19
– Papur 8 – Llythyr gan y
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 28 Tachwedd 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Mewn sesiwn breifat, cytunodd y Pwyllgor i
ddiweddaru ei adroddiad ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) cyn ei
osod gerbron y Cynulliad. |
||
Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Y newid yng nghyfansoddiad Cymru: CLA(5)-33-19
– Papur 10 – Llythyr gan
y Cwnsler Cyffredinol, 27 Tachwedd 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol.
Mewn sesiwn breifat, cytunodd y Pwyllgor i ystyried y materion a godwyd wrth
gwblhau ei waith ar yr ymchwiliad. |
||
14.45 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
14.45-15.30 |
Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru: Cyfraith Gyhoeddus a Chyfiawnder Gweinyddol Dr Sarah
Nason, Prifysgol Bangor CLA(5)-33-19
– Papur briffio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Dr Sarah Nason
ynghylch cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru. |
|
15.30 |
Gweithdrefn ar gyfer craffu ar Filiau Cydgrynhoi CLA(5)-33-19 – Papur 9 -
Papur materion o bwys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn dilyn y sesiwn a gynhaliwyd gyda’r Cwnsler Cyffredinol
ar 18 Tachwedd ar ddyfodol cyfraith Cymru, cytunodd y Pwyllgor i godi nifer o
faterion ychwanegol mewn llythyr pellach at y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â
gweithdrefn yn y dyfodol ar gyfer craffu ar Filiau Cydgrynhoi. |