Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020
Bil Llywodraeth
Cymru a gyflwynwyd gan Lesley
Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Cyfeiriodd
y Pwyllgor Busnes y Bil i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig.
Gwybodaeth am y Bil
Amcan polisi’r
Bil yw gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.
Mae’r Bil yn
ceisio’i gwneud yn drosedd defnyddio anifail gwyllt (fel y’i diffinnir yn y
Bil) mewn syrcas deithiol. Caiff anifail gwyllt ei ddefnyddio os yw’n
perfformio neu’n cael ei arddangos. Byddai’r drosedd yn cael ei chyflawni gan y
person sy’n weithredwr (fel y’i diffinnir yn y Bil) y syrcas deithiol os yw’n
defnyddio neu’n caniatáu i berson arall ddefnyddio anifail gwyllt yn y syrcas
deithiol. Mae person sy’n euog o drosedd o’r fath yn agored ar euogfarn
ddiannod i ddirwy.
Ni fydd y Bil yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid wedi’u
domestigeiddio mewn syrcasau teithiol, nac yn atal defnyddio anifeiliaid gwyllt
ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys syrcasau sefydlog.
Mae rhagor o
fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.
Cyfnod Presennol
Daeth Deddf
Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020 yn gyfraith yng Nghymru ar 7 Medi
2020.
Cofnod o daith y Bil drwy’r Senedd
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.
Cyfnod |
Dogfennau |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno'r
Bil: 8 Gorffennaf
2019 |
Bil Anifeiliaid Gwyllt a
Syrcasau (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Datganiad y Llywydd:
8 Gorffennaf 2019 Y Pwyllgor Busnes –
Amserelen ar gyfer ystyried Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru Datganiad
Bwriad Polisi - Cyflwyno Bil Anifeiliad Gwyllt a Syrcasau (Cymru) PDF
172 KB |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol |
Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig ei ddull gweithredu yng Nghyfnod 1 ar 10 Gorffennaf 2019. Gwnaeth y Pwyllgor galwad agored am dystiolaeth am y Bil. Mae’r ymgynghoriad bellach wedi
cau. Dyddiadau’r Pwyllgor Ystyriodd Y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Bydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn
ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Bu’r Y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau
canlynol:
Adroddiadau Cyfnod 1 Ysgrifennodd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 14 Hydref 2019 ar
oblygiadau ariannol y Bil. Gosododd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar
y Bil (PDF, 1MB) ar 4 Rhagfyr 2019. Gosododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei Adroddiad Cyfnod 1
ar 06 Rhagfyr 2019. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion
cyffredinol |
Cytunodd y
Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod
Llawn ar 07
Ionawr 2020. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad
Ariannol |
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd
wedi nodi nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor
o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i
Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus. Llythyr gan y Llywydd ar benderfyniad ariannol – 15 Tachwedd |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau |
Dechreuodd
Cyfnod 2 ar 08 Ionawr 2020. Bydd manylion y gwelliannau a gyflwynwyd yn cael
eu cyhoeddi yma. Bydd ystyriaeth
Cyfnod 2 yn digwydd mewn cyfarfod Pwyllgor ar 05 Chwefror 2020. Y dyddiad cau
ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod
pan gânt eu hystyried. Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 15 Ionawr 2020 Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 28 Ionawr 2020 Rhestr
o Welliannau Wedi’u Didoli – 30 Ionawr 2020 Grwpio
Gwelliannau – 30 Ionawr 2020 Bil
Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau Cymru heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2 - 05 Chwefror 2020 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau |
Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd
Cyfnod 3 ar 06 Chwefror
2020. Hysbysiad ynghylch
Gwelliannau – 09 Mawrth 2020 Hysbysiad ynghylch
Gwelliannau – 10 Mawrth 2020 Rhestr o Welliannau Wedi’u
Didoli – 02 Gorffennaf 2020 Grwpio Gwelliannau
– 02 Gorffennaf 2020 Cynhelir ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 08
Gorffennaf 2020 pan drafodir y gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yn
ystod Cyfnod 2). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod
gwaith cyn dyddiad y cyfarfod pan gânt eu hystyried. Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru),
(Heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 3) – 10 Gorffennaf 2020 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod
4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn |
Cytunodd y Senedd y Bil ar 15 Gorffennaf 2020 Bil
Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) fel y’i pasiwyd – 17 Gorffennaf
2020 Newidiadau Argraffu i'r Bil Anifeiliaid
Gwyllt a Syrcasau (Cymru) –
17 Gorffennaf 2020 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ar ôl Cyfnod 4 |
Ysgrifennodd y Cyfreithiwr
Cyffredinol, ar ran y Twrnai Cyffredinol, Y
Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd
Gwladol Cymru at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil
Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112
neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 – Awst 2020 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad Cydsyniad
Brenhinol |
Rhoddwyd Cydsyniad
Brenhinol ar 7 Medi 2020. |
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Elizabeth Wilkinson
Rhif
ffôn: 0300 200 6361
Cyfeiriad post:
Senedd
Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd, CF99 1SN
Ebost: SeneddNHAMG@Senedd.Cymru
Math o fusnes: Bil
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/07/2019
Dogfennau
- Llythr at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Datganiad Cyfarfod Llawn
PDF 259 KB
- Datganiad Cyfarfod Llawn - Cyflwyno Bil Anifeiliad Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
PDF 172 KB
- Llythr at y Llywydd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 12 Awst 2019
PDF 292 KB
- Llythr at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 25 Medi 2019
PDF 98 KB
- Llythr gan Gweinidog yr Amgylchedd Ynni a Materion Gwledig - 3 Hydref 2019
PDF 358 KB
- Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ar oblygiadau ariannol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
PDF 278 KB Gweld fel HTML (6) 26 KB
- Llythyr gan y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 28 Tachwedd 2019
PDF 263 KB
- Llythyr gan y Llywydd at Brif Weinidog Cymru ar Benderfyniad Ariannol - 15 Tachwedd 2019
PDF 101 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 15 Ionawr 2020
PDF 100 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 28 Ionawr 2020
PDF 66 KB
- Rhestr o Welliannau Wedi'u Didoli - 30 Ionawr 2020
PDF 103 KB
- Grwpio Gwelliannau - 30 Ionawr 2020
PDF 84 KB
- Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2
PDF 94 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 09 Mawrth 2020
PDF 58 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 10 Mawrth 2020
PDF 67 KB
- Rhestr o Welliannau Wedi'u Didoli - 02 Gorffennaf 2020
PDF 97 KB
- Grwpio Gwelliannau - 02 Gorffennaf 2020
PDF 86 KB
- Datganiad y Llywydd - Biliau â phwnc gwarchodedig: gofyniad am uwchfwyafrif – 9 Gorffennaf 2020
- Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), (Heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 3) - 10 Gorffennaf 2020
PDF 95 KB
- Newidiadau Argraffu i'r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), ar ôl Cyfnod 3 - 10 Gorffennaf 2020
PDF 58 KB
- Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) fel y’i pasiwyd - 17 Gorffennaf 2020
PDF 89 KB
- Newidiadau Argraffu i'r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - 17 Gorffennaf 2020
PDF 217 KB Gweld fel HTML (22) 2 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Saesneg yn unig) - 5 Awst 2020
PDF 205 KB
- Llythyr gan y Cyfreithiwr Cyffredinol (Saesneg yn unig) - 10 Awst 2020
PDF 44 KB
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - 12 Awst 2020
PDF 247 KB
- Gohebiaeth gan y Llywydd at y Prif Weinidog - 4 Gorffennaf 2019
PDF 91 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd - 27 Mehefin 2019
PDF 98 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (Saesneg yn unig) - 28 Gorffennaf 2019
PDF 32 KB
Ymgynghoriadau
- Bil Anifeiliad Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (Wedi ei gyflawni)