Ymgynghoriad

Bil Anifeiliad Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (‘y Bil’). Mae rhagor o fanylion am y Bil ar gael ar dudalen y Bil ar y we.

Cylch gorchwyl

Ystyried:

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni’r amcanion polisi a nodir yn y Bil;
  • darpariaethau’r Bil, yn benodol mewn perthynas â’r materion a ganlyn:

(i)            gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru (gan gynnwys yr ystyron a nodir yn adrannau 2 i 4);

(ii)          pwerau gorfodi (yr Atodlen); a’r

(iii)        diwygiadau sy’n gysylltiedig â thrwyddedu syrcasau (adran 8);

  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil;
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2, adran 8 o’r Memorandwm Esboniadol); a
  • phriodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’u nodir yn Rhan 1, adran 5 o’r Memorandwm Esboniadol).

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Awst 2019.

Er eglurder, nid oes ffurflen ddynodedig ar gyfer cyflwyniadau. I'r rhai a hoffai gyflwyno eu hymateb yn electronig, anfonwch eich cyflwyniad yng nghorff e-bost neu fel atodiad i: SeneddNHAMG@senedd.cymru

I'r rhai a hoffai gyflwyno eu barn ar ffurf copi caled, gellir cyfeirio llythyrau fel a ganlyn: Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Senedd Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1SN.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

 

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565