Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09.00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd
ei fod wedi penderfynu bod y cyhoedd wedi’u gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er
mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24, datganodd David Melding
fuddiant mewn perthynas ag Eitem 2. |
|
09.00-10.00 |
Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3 Y Gwir
Anrhydeddus Robert Buckland CF AS, yr Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd
Gwladol dros Gyfiawnder CLA(5)-06-21 –
Papur briffio CLA(5)-06-21 –
Papur 1 – Llythyr oddi
wrth Alex Chalk AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, 7
Gorffennaf 2020 CLA(5)-06-21 –
Papur 2 – Llythyr at yr
Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, 19 Mehefin 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd
Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder mewn perthynas â'i
ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru. |
|
10.45-11.30 |
Cyfiawnder yng Nghymru a chynigion i ddiwygio system dribiwnlysoedd datganoledig Cymru – sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr Mr Nicholas
Paines CF, Comisiynydd y Gyfraith Henni Ouahes,
Pennaeth Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru, Comisiwn y Gyfraith Sarah Smith, Cyfreithiwr
Diwygio'r Gyfraith, Comisiwn y Gyfraith CLA(5)-06-21 –
Papur briffio 2 CLA(5)-06-21 –
Papur 3 – Llythyr oddi wrth
Nicholas Paines CF, 20 Ionawr 2021 CLA(5)-06-21 –
Papur 4 - Gohebiaeth oddi
wrth Nicholas Paines CF, 17 Rhagfyr 2020 Comisiwn y Gyfraith – Papur Ymgynghori ar Dribiwnlysoedd
Datganoledig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith
mewn perthynas â'i gynigion i ddiwygio system dribiwnlysoedd datganoledig
Cymru. |
|
11.30-11.35 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-06-21 –
Papur 5 – Offerynnau
statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(5)740 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(5)742 – Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
11.35-11.40 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)735 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 CLA(5)-06-21 –
Papur 6 – Adroddiad CLA(5)-06-21 –
Papur 7 – Rheoliadau CLA(5)-06-21 –
Papur 8 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-06-21 –
Papur 9 – Datganiad
ysgrifenedig, 27 Ionawr 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd, a gwneud cais am ymateb
i’r pwynt gan Lywodraeth Cymru. Nododd y
Pwyllgor hefyd fod cynnig i ddirymu'r Rheoliadau wedi'i gyflwyno, ac y trefnwyd
i'r ddadl gyfatebol gael ei chynnal ar 3 Mawrth 2021. |
||
SL(5)741 - Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 28 (Parc Tredegar) i Gyffordd 24 (Coldra)) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2021 CLA(5)-06-21 –
Papur 10 – Adroddiad CLA(5)-06-21 –
Papur 11 – Rheoliadau CLA(5)-06-21 –
Papur 12 – Memorandwm
Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(5)743 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021 CLA(5)-06-21 –
Papur 13 – Adroddiad CLA(5)-06-21 –
Papur 14 – Rheoliadau CLA(5)-06-21 –
Papur 15 – Memorandwm
Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(5)736 – Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 CLA(5)-06-21 –
Papur 16 – Adroddiad CLA(5)-06-21 –
Papur 17 – Rheoliadau CLA(5)-06-21 –
Papur 18 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-06-21 –
Papur 19 – Datganiad
ysgrifenedig, 27 Ionawr 2021 CLA(5)-06-21 –
Papur 20 – Datganiad ysgrifenedig,
3 Chwefror 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth a
chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y byddai Llywodraeth Cymru yn gosod fersiwn
newydd o'r Rheoliadau cyn bo hir. |
||
11.40-11.45 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(5)695 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 CLA(5)-06-21 –
Papur 21 – Adroddiad CLA(5)-06-21 –
Papur 22 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
11.45-11.50 |
Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i'w hadrodd i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – ystyriwyd yn flaenorol |
|
SL(5)727 – Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2021 CLA(5)-06-21 –
Papur 23 – Adroddiad CLA(5)-06-21 –
Papur 24 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
11.50-11.55 |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheoli Organig (Diwygio) 2021 CLA(5)-06-21 –
Papur 25 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 5 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd,
Ynni a Materion Gwledig. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i’r Llywydd. Busnes y Senedd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad CLA(5)-06-21 –
Papur 26 – Llythyr oddi
wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Llywydd, 9 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol. |
||
Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Diwygiadau i Fil Masnach y DU CLA(5)-06-21 –
Papur 27 – Llythyr gan y
Cwnsler Cyffredinol, 10 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol. |
||
Adroddiad Llywodraeth Cymru ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith CLA(5)-06-21 –
Papur 28 – Adroddiad
Llywodraeth Cymru CLA(5)-06-21 –
Papur 29 – Datganiad
ysgrifenedig, 15 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr adroddiad. |
||
Gohebiaeth ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Confensiwn Sewel CLA(5)-06-21 –
Papur 30 – Llythyr gan Ysgrifennydd
Gwladol Cymru, 16 Chwefror 2021 CLA(5)-06-21 –
Papur 31 – Llythyr at Ysgrifennydd
Gwladol Cymru, 21 Ionawr 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol
Cymru. |
||
11.55 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
11.55-12.15 |
Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – trafod y dystiolaeth Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei
sesiynau gyda'r Arglwydd Ganghellor a chyda Comisiwn y Gyfraith, a thrafododd
faterion allweddol a fyddai'n cael eu codi yn adroddiad gwaddol y Pwyllgor. |
|
12.15-12.25 |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig – trafod yr adroddiad drafft CLA(5)-06-21 –
Papur 32 – Adroddiad
drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femoranda
Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cam-drin Domestig a
chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y
byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol. |
|
12.25-12.30 |
Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf CLA(5)-06-21 –
Papur 33 – Llythyr gan y
Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 17 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r
Trefnydd. |