Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021

Bil Brys Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 

 

Bil Brys yw Bil Llywodraeth y mae angen ei wneud yn Ddeddf yn gynt nag y mae proses ddeddfu pedwar cyfnod arferol y Senedd yn ei ganiatáu. Ni ddarperir diffiniad o Fil Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) nac yn Rheolau Sefydlog y Senedd. Fodd bynnag, dywed Rheol Sefydlog 26.95:

 

“Os yw’n ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.”

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Mae Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn gwneud darpariaeth i ymateb i’r risgiau posibl i’r etholiad cyffredinol arferol ar gyfer aelodaeth Senedd Cymru sy'n deillio o bandemig y coronafeirws, a hynny er mwyn sicrhau y gellir gweinyddu'r etholiad a bwrw ymlaen yn ddiogel ac y gall yr etholwyr gymryd rhan a phleidleisio.

 

O ran y Senedd, dim ond i’r etholiad cyffredinol arferol sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2021 y bydd darpariaethau’r Bil yn gymwys ac ni fyddant yn gymwys i unrhyw etholiadau dilynol.

 

Mae’r Bil hefyd yn ymateb i’r risgiau posibl cysylltiedig â’r coronafeirws drwy ganiatáu i isetholiadau llywodraeth leol gael eu gohirio’r tu hwnt i 6 Mai 2021 os bydd angen.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef.

 

Y cyfnod presennol

BillStagePost4

 

Mae’r Bil yng Nghyfnod ar ôl 4 ar hyn o bryd.  Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cynnig i drin y Bil fel Bil Brys y Llywodraeth

 

Cynnig i gytuno ar amserlen

 

Cyflwynwyd ar 19 Ionawr 2021, i’w drafod ar 26 Ionawr 2021

Cyflwyno'r Bil: 27 Ionawr 2021

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y'i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Datganiad y Llywydd: 19 Ionawr 2021

 

Crynodeb o’r Bil

 

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: 27 Ionawr 2021

 

Cyfnod 1: Y Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y Cyfarfod

 

Trawsgrifiad

 

Senedd.TV

1 Chwefror 2021

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

 

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad adroddiad ar 2 Chwefror 2021.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, Atodiad – 3 Chwefror 2021

 

Cyfnod 1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Chwefror 2021.

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Chwefror 2021.

 

Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cyfnod 2: Y Pwyllgor yn trafod gwelliannau

Dechreuodd Cyfnod 2 yn syth ar ôl cwblhau Cyfnod 1.

 

Cyhoeddir manylion y gwelliannau a gyflwynwyd i’w hystyried yn y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan ar 9 Chwefror 2021 yma.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw 16.00 ar 5 Chwefror 2021.

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 4 Chwefror 2021

Tabl Pwrpas ac Effaith – 4 Chwefror 2021

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 5 Chwefror 2021

Rhestr o welliannau wedi’u didoli – 9 Chwefror 2021

Grwpio gwelliannau – 9 Chwefror 2021

 

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

 

Cyfnod 3: Trafod y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn

Cynhelir ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2021 pan drafodir y gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2).

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw 22.00 ar 9 Chwefror 2021.

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 9 Chwefror 2021

Tabl Pwrpas ac Effaith – 9 Chwefror 2021

Rhestr o welliannau wedi’u didoli – 10 Chwefror 2021

Grwpio gwelliannau – 10 Chwefror 2021

 

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

 

Cyfnod 4: Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Senedd ar y Bil ar 10 Chwefror 2021.

 

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y’i pasiwyd

 

Ar ôl Cyfnod 4

Ysgrifennodd y Cyfreithiwr Cyffredinol ar ran y Twrnai Cyffredinol, y Cwnsler Cyffredinol, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

 

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021.

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Gareth Rogers

Rhif ffôn: 0300 200 6357

 

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

 

E-bost: deddfwriaeth@senedd.cymru

 

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2021

Dogfennau