Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cafwyd cadarnhad gan y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd unrhyw ddirprwyon.

 

09.30-10.30

2.

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws): Sesiwn dystiolaeth

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr – y Cyfansoddiad a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru

Dorian Brunt, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) (fel y'i cyflwynwyd)

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) – Memorandwm Esboniadol

 

CLA(5)-04-21 – Papur briffio

CLA(5)-04-21 – Papur 1 - Crynodeb o’r Bil

CLA(5)-04-21 – Papur 2 - Datganiad ysgrifenedig

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws).

 

10.30-10.35

3.

Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)729 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 3 – Adroddiad

CLA(5)-04-21 – Papur 4 – Rheoliadau

CLA(5)-04-21 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-04-21 – Papur 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, 22 Ionawr 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 7 – Datganid ysgrifenedig, 22 Ionawr 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, yn ogystal â’r ymateb gan Lywodraeth Cymru a ddaeth i law yn ystod y trafodion, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(5)728 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 8 – Adroddiad

CLA(5)-04-21 – Papur 9 – Rheoliadau

CLA(5)-04-21 – Papur 10 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-04-21 – Papur 11 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 21 Ionawr 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 12 – Datganiad ysgrifenedig, 21 Ionawr 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

10.35-10.40

4.

Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(5)703 - Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-04-21 – Papur 13 – Adroddiad

CLA(5)-04-21 – Papur 14 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

 

4.2

SL(5)707 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-04-21 – Papur 15 – Adroddiad

CLA(5)-04-21 – Papur 16 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

 

4.3

SL(5)723 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 17 – Adroddiad

CLA(5)-04-21 – Papur 18 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

4.4

SL(5)725 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 19 – Adroddiad

CLA(5)-04-21 – Papur 20 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

4.5

SL(5)726 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 21 – Adroddiad

CLA(5)-04-21 – Papur 22 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

10.40-10.45

5.

Is-ddeddfwriaeth sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

5.1

SL(5)727 - Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 23 – Adroddiad

CLA(5)-04-21 – Papur 24 – Cod Ymarfer

CLA(5)-04-21 – Papur 25 – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod Ymarfer a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

10.45-10.50

6.

Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

6.1

SICM(5)39 - Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Masnach Electronig (Addysg, Mabwysiadu a Phlant) (Diwygio etc) 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 26 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-04-21 – Papur 27 – Rheoliadau

CLA(5)-04-21 – Papur 28 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-35-20 – Papur 29 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

CLA(5)-04-21 – Papur 30 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-04-21 – Papur 31 – Sylwadau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r sylwebaeth.

 

10.50-10.55

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 32 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 25 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd, yn ystod y sesiwn breifat, i ysgrifennu yn ôl i ofyn am ragor o wybodaeth am y Rheoliadau.

 

7.2

Gohebiaeth â'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder: Gwneud i gyfiawnder weithio yng Nghymru

CLA(5)-04-21 – Papur 33 – Llythyr gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, 28 Ionawr 2021

CLA(5)-04-21 – Paper 34 – Llythyr at yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, 22 Rhagfyr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, gan nodi hefyd bod trefniadau’n cael eu gwneud i alluogi’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor fel rhan o’i ymchwiliad i wneud i gyfiawnder weithio yng Nghymru.

 

10.55

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

10.55-11.25

9.

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a chytunodd i gwblhau ei adroddiad y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor, cyn ei osod mewn pryd ar gyfer y ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd wedi’i threfnu ar gyfer 2 Chwefror 2021.

 

11.25-11.40

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd – trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-04-21 – Papur 35 – Adroddiad drafft

CLA(5)-04-21 – Papur 36 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 26 Ionawr 2021

CLA(5)-04-21 – Papur 37 – Llythyr at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 23 Rhagfyr 2020

CLA(5)-04-21 – Papur 38 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 28 Awst 2020

CLA(5)-04-21 – Papur 39 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i drafod drafft arall o’i adroddiad yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

11.40-11.45

11.

Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig – sesiwn friffio

CLA(5)-04-21 – Papur 40 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r sesiwn friffio tan y cyfarfod nesaf.

 

11.45-11.50

12.

Fframweithiau cyffredin – y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-04-21 – Papur 41 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 28 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.