Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

10:00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad hefyd gan Suzy Davies AS. Roedd David Melding AS yn bresennol i ddirprwyo ar ei rhan am ran o’r cyfarfod.

2.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(5)555 - Rheoliadau Cyfrifiad (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-18-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-18-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-18-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

3.1

SL(5)553 - Rheoliadau Taliadau i Ffermwyr (Rheolaethau a Gwiriadau) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

CLA(5)-18-20 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(5)-18-20 – Papur 5 – Rheoliadau

CLA(5)-18-20 – Papur 6 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

4.

Adroddiad Rheol Sefydlog 30B: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin

CLA(5)-18-20 – Papur 7 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-18-20 – Papur 8 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r adroddiad.

5.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

5.1

WS-30C(5)161 - Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020

CLA(5)-18-20 – Papur 9 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-18-20 – Papur 10 – Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

6.

Papur(au) i'w nodi

6.1

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru

CLA(5)-18-20 – Papur 11 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 4 Mehefin 2020

CLA(5)-18-20 – Papur 12 – Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol, 11 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

6.2

Llythyr gan y Prif Weinidog ar y Pwyllgor Busnes: Deddf Senedd ac Etholiadau 2020

CLA(5)-18-20 – Papur 13 - Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes, 4 Mehefin 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

6.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd a Deddfwriaeth Ychwanegol: Gohebiaeth gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn

CLA(5)-18-20 – Papur 14 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 9 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

6.4

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Offeryn Statudol ar gyfer y DU gyfan - Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Diwygio) 2020

CLA(5)-18-20 – Papur 15 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 9 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

6.5

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Offeryn Statudol ar gyfer y DU gyfan - Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Terfynau Uchaf) 2020

CLA(5)-18-20 – Papur 16 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 10 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

10:30

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 8, 9 a 10:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

8.

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid - trafod yr adroddiad drafft.

CLA(5)-18-20 – Papur 17 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ac fe’i derbyniwyd.  

9.

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) - trafod yr adroddiad drafft.

CLA(5)-18-20 – Papur 18 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ac fe’i derbyniwyd.  

10.

Biliau’r DU yn ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd - papur briffio

CLA(5)-18-20 - Papur 19 – Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur briffio gan ymchwilwyr y Senedd a chytunodd y dylid parhau i fonitro’r sefyllfa o ran Biliau’r DU sy’n ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd, a pharatoi diweddariadau’n rheolaidd.

11:00

11.

Y newid yng nghyfansoddiad Cymru: Sesiwn dystiolaeth 6

Jeremy Miles MS, Counsel General

Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog, Llywodraeth Cymru

Chris Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru

 

CLA(5)-18-20 – Papur briffio

CLA(5)-18-20 – Papur 20 – Datganiad gan Llywodraeth Cymru, 25 Chwefror 2020

CLA(5)-18-20 – Papur 21 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 11 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’i swyddogion.

12.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

13.

Y newid yng nghyfansoddiad Cymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a chytunodd i drafod y prif faterion sy’n deillio o’r ymchwiliad mewn cyfarfod yn y dyfodol.