Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
Cyflwynwyd Bil
Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 18 Mawrth 2020.
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad y Senedd i
ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.
Gosododd
Llywodraeth Cymru
Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 102KB) ar y Bil gerbron y Senedd
ar ddydd Iau 7 Mai 2020.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn dydd Iau 2 Gorffennaf 2020.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ei adroddiad
(PDF, 117KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 17 Mehefin 2020.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2020
Dogfennau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) - 7 Mai 2020
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
- Amserlen diwygiedig ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) (Diwygiwyd 1 Mehefin 2020)
PDF 63 KB
- Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Adroddiad Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) - 16 Mehefin 2020