Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid 2020

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid 2020

Cyflwynwyd Bil Cyllid (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 17 Mawrth 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 13 Mai 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Cyllid, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 18 Mehefin 2020 (Diwygiedig ar 8 Mehefin 2020).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad (PDF, 97KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 17 Mehefin 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF, 100KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 18 Mehefin 2020.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/05/2020

Dogfennau