Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/03/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19,
ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
09.30-09.35 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-09-21 –
Papur 1 – Offerynnau
statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(5)756 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(5)779 – Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
09.35-09.40 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)770 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2021 CLA(5)-09-21 –
Papur 2 – Adroddiad CLA(5)-09-21 –
Papur 3 – Rheoliadau CLA(5)-09-21 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(5)757 - Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 CLA(5)-09-21 –
Papur 5 – Adroddiad CLA(5)-09-21 –
Papur 6 – Rheoliadau CLA(5)-09-21 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(5)758 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021 CLA(5)-09-21 –
Papur 8 – Adroddiad CLA(5)-09-21 –
Papur 9 – Rheoliadau CLA(5)-09-21 – Papur 10 – Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(5)769 – Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 CLA(5)-09-21 –
Papur 11 – Adroddiad CLA(5)-09-21 –
Papur 12 – Rheoliadau CLA(5)-09-21 – Papur 13 – Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth
iddo, a nododd fod yr offeryn wedi'i dynnu'n ôl a'i ddisodli gan Reoliadau Cymorth
Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021. |
||
SL(5)783 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 CLA(5)-09-21 –
Papur 14 – Adroddiad CLA(5)-09-21 –
Papur 15 – Rheoliadau CLA(5)-09-21 –
Papur 16 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-09-21 –
Papur 17 – Llythyr gan y
Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 3 Mawrth 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
09.40-09.45 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol. |
|
SL(5)764 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 CLA(5)-09-21 –
Papur 18 – Adroddiad CLA(5)-09-21 –
Papur 19 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
09.45-09.50 |
Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C |
|
WS-30C(5)217 - Rheoliadau Allyriadau Nwyon Ty Gwydr (Cofrestrfa Protocol Kyoto) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021 CLA(5)-09-21 –
Papur 20 – Datganiad
ysgrifenedig CLA(5)-09-21 -
Papur 21 - Sylwebaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Yn ogystal,
cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan y Gweinidog Cyllid a’r
Trefnydd mewn perthynas â'r datganiad. |
||
09.50-09.55 |
Papur(au) i’w nodi |
|
Llythyr gan The Kennel Club: Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 CLA(5)-09-21 –
Papur 22 – Llythyr gan Dr
Edward Hayes, Pennaeth Materion Cyhoeddus, Y Kennel Club, 9 Mawrth 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr, a chytunodd i dynnu sylw
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ato. |
||
Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd. CLA(5)-09-21 –
Papur 23 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 9 Mawrth 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd,
Ynni a Materion Gwledig. |
||
Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021 a'r Rheoliadau Organig (Diwygio) 2021 CLA(5)-09-21 –
Papur 24 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 12 Mawrth 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd,
Ynni a Materion Gwledig. |
||
09.55 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
09.55-10.05 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) - trafod yr adroddiad drafft CLA(5)-09-21 –
Papur 25 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid
(Dedfrydu), a chytunodd i gwblhau'r drafodaeth arno y tu allan i'r Pwyllgor. |
|
10.05-10.15 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog - trafod yr adroddiad drafft CLA(5)-09-21 –
Papur 26 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog, a chytunodd
i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf. |
|
10.15-11.00 |
Gwaith gwaddol - trafod yr adroddiad drafft CLA(5)-09-21 –
Papur 27 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ddrafft diwygiedig o’i adroddiad
gwaddol, a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig arall yn y cyfarfod nesaf. |