Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Yn unol â
Rheol Sefydlog 17.31, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod tan 09:35. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Janet Finch-Saunders. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
||
P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
cyn trafod
y ddeiseb drachefn cyn gynted ag y bo modd yn nhymor yr hydref. |
||
P-05-826 Mae Sir Benfro yn dweud NA!! i gau uned Damweiniau ac Achosion Brys Llwynhelyg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu
at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn am fanylion ychwanegol am y broses
a'r amserlenni y mae'n bwriadu eu dilyn yn awr bod yr ymgynghoriad cyhoeddus
wedi dod i ben; a ·
cheisio
amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn gynnar yn nhymor yr hydref. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chan Gomisiynwyr yr
Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â
sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
||
P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth a chan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ynghyd
â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail yr
ymddengys nad oes fawr o ddim y gall y Pwyllgor ei wneud ynghylch y ddeiseb ar
hyn o bryd. Wrth wneud hynny, nododd y
Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn mynd â nifer o orsafoedd newydd posibl trwy
broses model busnes 5 cam, a hynny er mwyn cefnogi ceisiadau a wneir i unrhyw
Gronfa Gorsafoedd Newydd a gynhelir gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol. Mae wedi
ymrwymo'r arian cyfatebol angenrheidiol ar gyfer unrhyw geisiadau a gyflwynir. |
||
P-05-811 Rhoi'r gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, gan y Cynllun
Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (y Cynllun) a chan Unite, ynghyd â sylwadau pellach
gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer y
gall y Pwyllgor ei wneud ynghylch y ddeiseb hon, yng ngoleuni'r ymatebion a
gafwyd gan Lywodraeth Cymru ac oherwydd nad yw'r materion ychwanegol a godwyd
gan y deisebydd mewn perthynas â chwmpas a dyluniad y Cynllun yn rhai a
ddatganolwyd i'r Cynulliad. |
||
P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd
cyfyngiadau amser, ac ar gais y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod
y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol. |
||
P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd
cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau,
cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol. |
||
P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Statudol Cyhoeddus i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion eraill Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â sylwadau
ychwanegol gan y deisebwyr, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd
i ofyn, ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 19 Mehefin, am ragor o fanylion
am y canlynol: ·
yr ystyriaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i opsiynau ar gyfer diwygio
deddfwriaeth mynediad yn sgil yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar Reoli
Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy; a'r ·
trafodaethau sy'n cael eu hwyluso â'r Fforwm Mynediad Cenedlaethol. |
||
P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd
cyfyngiadau amser, ac i ganiatáu amser ychwanegol i'r deisebydd roi sylwadau,
cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol a
thrafod ymhellach a ddylid gwahodd Gweinidog yr Amgylchedd i'r Pwyllgor yn
nhymor yr hydref i ateb cwestiynau ar nifer o ddeisebau sy'n ymwneud â
phlastigau untro. |
||
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd
cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau,
cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol. |
||
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd
cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau,
cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol. |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd ar P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y
papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 6 ac 8 ar yr agenda heddiw: Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
||
Adroddiad - P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau ar yr Adroddiad
gan gytuno hefyd i'w osod yn ystod toriad yr haf fel y gellir ei drafod yn
nhymor yr hydref. |
||
(10.15 - 10.45) |
Sesiwn dystiolaeth - P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Claire Rowlands - Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm John Pugsley - Pennaeth y Celfyddydau, y Gangen Dyniaethau a Llesiant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Claire Rowlands, a
John Pugsley. |
|
Trafod y Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol - P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a
chytunodd ar y camau a ganlyn:
|