P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd
P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mervyn Lloyd Jones a Rob
McBride ar ôl casglu 402 o
lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni
sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i ystyried ein cynnig i roi 'Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y
Drenewydd' yn enw swyddogol ar adran newydd o ffordd yr A483—adran hanesyddol
yr oedd mawr ei hangen.
Dylid
gwneud hyn i gydnabod y cyhoeddusrwydd cadarnhaol iawn y mae un o 'Henebion
Naturiol' mwyaf arwyddocaol Sir Drefaldwyn, sef Derwen Brimmon, wedi'i greu i'r
Drenewydd, i'r rhanbarth ac i Gymru.
Yn
gyntaf, enillodd wobr Coeden Gymreig y Flwyddyn cyn ennill gwobr 'UK Tree of
the Year'—cystadleuaeth a ddarlledwyd ar deledu cenedlaethol. Yna, cafodd ail
yng nghystadleuaeth fawreddog 'European Tree of the Year' (2017), mewn seremoni
yn Senedd yr UE ym Mrwsel a gafodd lawer o sylw. Teimlwn y dylai'r dderwen
hynafol hon, sydd o bwysigrwydd diwylliannol mawr, ac sydd bellach yn
adnabyddus ledled Cymru, y DU ac yn wir y byd, gael ei hanrhydeddu yn y modd
hwn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 29/01/2019
penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a chytunodd i gau'r
ddeiseb yng ngoleuni penderfyniadau terfynol Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir
Powys i wrthod y cynnig.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Sir Drefaldwyn
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2018