Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Deisebau COVID-19 |
|
P-05-968 Talu grantiau Coronafeirws i bob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yr un fath â gweddill y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y
deisebydd cyn penderfynu sut i fynd ymlaen. |
|
P-05-970 Gofynnwch i'r Senedd ailystyried ei phenderfyniad i beidio â rhoi cyllid brys i sŵau ac acwaria Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth
Cymru i ofyn sut maen nhw’n bwriadu adolygu’r mater hwn ac i rannu sylwadau'r
deisebwyr i’w trafod yn ystod y broses adolygu. |
|
P-05-971 Dylid llacio'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â P-05-989 Cadw'r
cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn
radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru a chytunodd i nodi cryfder y teimlad
a fynegwyd trwy nifer y bobl a lofnododd y ddeiseb a'r sylwadau pellach a ddarparwyd
gan y deisebydd, ond caewyd y ddwy ddeiseb gan fod y cyfyngiadau teithio y
cyfeiriwyd atynt wedi'u llacio ar 6 Gorffennaf. |
|
P-05-989 Cadw’r cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â P-05-971 Dylid llacio'r
cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl
deithio yng Nghymru a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb gan fod y
cyfyngiadau teithio y cyfeiriwyd atynt wedi'u llacio ar 6 Gorffennaf. |
|
P-05-972 Dylid darparu o leiaf bedair awr y dydd o addysg fyw i bob disgybl tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i rannu’r ddeiseb hon a gofyn iddi gael ei
hystyried yn ystod eu trafodaethau parhaus ynghylch effaith y pandemig Covid-19
ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. |
|
P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â’u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i drafod y ddeiseb eto yng
ngoleuni canlyniad adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o’r cyfyngiadau Covid-19
ar 9 Gorffennaf, a sylwadau pellach gan y deisebydd. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw'r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gydnabod y trawma y mae rhieni’n ei
brofi wrth golli babi, a dymunodd ddiolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y
materion hyn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn beth y mae'r Gweithgor yn ei wneud yn benodol
i sicrhau bod gan bobl sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad fynediad i fannau a
chyfleusterau sy'n briodol i'w sefyllfa, ac a ellir ystyried argymhellion
adroddiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru fel rhan o hyn. |
|
P-05-966 STOPIWCH yr isafbris am alcohol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a, gan nodi mai dim ond yn ddiweddar y
cyflwynwyd yr Isafbris Uned ar gyfer alcohol a bod astudiaethau i'w ganlyniadau
a'i effeithiolrwydd yn cael eu cynnal, cytunwyd i wneud yr hyn a ganlyn: ·
nodi’r teimladau a
fynegwyd yn y ddeiseb a’r ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol; ·
rhannu’r ddeiseb
â’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i'w thrafod yn ystod eu
gwaith craffu ar ôl deddfu; a ·
chau'r ddeiseb yn
sgîl y ffaith nad oes llawer rhagor y gellir ei wneud ar hyn o bryd. |
|
P-05-969 Ymchwiliwch i Reoliadau Drafft y Gronfa Ddata Addysg 2020 – diangen ac yn tanseilio hawliau dynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn sgîl
cyhoeddiad y Gweinidog Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig yn parhau yn
ystod gweddill tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i nodi'r ddeiseb a'r
pryderon a godwyd ond y bydd yn cau'r ddeiseb ar hyn o bryd, gan ddiolch i'r
deisebwyr am godi’r mater hwn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni?
Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref! Yn sgîl cyhoeddiad y Gweinidog
Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig i’r canllawiau a’r rheoliadau addysg yn
y cartref yn parhau yn ystod tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
deisebau, gan ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â nhw ynghylch y mater hwn. |
|
P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau
arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref. Yn sgil cyhoeddiad y
Gweinidog Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig i’r canllawiau a’r rheoliadau
addysg yn y cartref yn parhau yn ystod tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor
i gau’r deisebau, gan ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â nhw ynghylch y
mater hwn. |
|
P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a nododd bod Cafcass Cymru wedi cyhoeddi canllawiau
ar ‘Anfodlonrwydd neu Wrthodiad Plant i Dreulio Amser gyda Rhiant’ ac wedi
darparu hyfforddiant i'w ymarferwyr ar sut i gydnabod y mater hwn, yn ystod yr
amser y mae'r ddeiseb wedi cael ei hystyried. Hefyd, mae’r Pwyllgor wedi trafod
llawer o ohebiaeth ac wedi cynnal sesiynau tystiolaeth gyda’r deisebwyr,
Cafcass Cymru a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Ar ôl
cynnal pleidlais, barn mwyafrif y Pwyllgor oedd nad oedd llawer rhagor y gellir
ei gyflawni yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ac y dylid cau’r ddeiseb. |
|
P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i nodi’r oedi i’r broses ailasesu yn
sgil y pandemig Covid-19, ac i ofyn am ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys syniad o’r amserlen bosibl ar gyfer
cwblhau’r ailasesu. |
|
P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng ngoleuni'r
penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gadw Adran Achosion
Brys amser llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb ac i longyfarch yr ymgyrchwyr ar ddatrysiad llwyddiannus i’w hymgyrch. |
|
P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus' Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol i ofyn am aelodaeth Partneriaeth Creu Lleoedd Cymru a chael
sicrwydd y bydd sefydliadau priodol sy'n cefnogi pobl ddigartref yn cymryd rhan
yn y gwaith hwn, gyda'r bwriad o gau’r ddeiseb os ceir digon o sicrwydd. |
|
P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i: ·
wahodd Gweinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac ·
ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i
ofyn am gopi o adroddiad archwilio diweddaraf Pont Sir y Fflint fel y cytunwyd
yn eu sesiwn dystiolaeth ar 1 Hydref 2019. |
|
P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog
yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn a ellir rhannu’r holl adborth â Grŵp y Tasglu er mwyn iddo gael ei ystyried
ganddynt, ac i ofyn y cwestiynau a ganlyn a gynigiwyd gan y deisebydd: ·
yr amserlen ar
gyfer gwaith y tasglu a gweithredu eu hargymhellion, yn enwedig yng ngoleuni'r
amgylchiadau presennol ac etholiadau’r Senedd sydd ar ddod; a ·
sut yr ymgynghorir
â phobl sydd wedi colli’u golwg a sefydliadau sy'n eu cynrychioli ynghylch
unrhyw fesurau a weithredir. |
|
P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i: ·
gael eglurhad gan y datblygwyr
ynghylch nifer bosibl y wagenni fydd yn mynd yn ôl ac ymlaen i'r safle,
capasiti’r ffwrnais ac allyriadau posibl y safle; a ·
nodi bod ymgynghoriad statudol ar y
cynigion ar y gweill a bod disgwyl i gais cynllunio llawn gael ei gyflwyno yn
nhymor yr hydref ac i gadw golwg ar y datblygiadau ar hyn o bryd. |
|
P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ailedrych ar y posibilrwydd o ofyn am
ddadl ar y ddeiseb hon yn ystod tymor yr hydref, os bydd hynny’n briodol, ac i
ofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlenni o ran y cais cynllunio yn y
cyfamser. |