P-05-969 Ymchwiliwch i Reoliadau Drafft y Gronfa Ddata Addysg 2020 - diangen ac yn tanseilio hawliau dynol
P-05-969 Ymchwiliwch i Reoliadau Drafft y Gronfa Ddata
Addysg 2020 – diangen ac yn tanseilio hawliau dynol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
‘Mountain Movers Registered Charity’, ar ôl casglu cyfanswm o 236 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw
ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r pwyntiau a ganlyn:
1) Pa dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i
defnyddio wrth greu'r Asesiad Effaith Integredig ar gyfer yr Ymgynghoriad
ynghylch y Rheoliadau Drafft (WG 39220) sy’n:
a) awgrymu bod y rheoliadau presennol ar gyfer
plant sy’n colli addysg yn methu â nodi nifer sylweddol o blant
b) Sut y bydd cronfa ddata a’r canllawiau drafft
blaenorol (2019) yn cyflawni targedau'r Asesiad Effaith Integredig?
2) Pa dystiolaeth sy'n dangos bod plant Addysg
Ddewisol yn y Cartref mewn mwy o berygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth
na hyfforddiant neu o beidio â chyrraedd eu llawn botensial?
3) Eglurhad. A oes nod tymor hwy i
fonitro/rheoleiddio cynnwys addysg/cwricwlwm addysgol gyda phrofion rheolaidd
ar gyfer plant Addysg Ddewisol yn y Cartref er mwyn cyflawni'r nodau a nodir yn
y canllawiau a’r Asesiad Effaith Integredig?
4) Ymchwilio i'r diffyg mesurau diogelu yn y
Rheoliadau Drafft i'w hatal rhag cael eu defnyddio fel modd o olrhain
teuluoedd?
5) Ymchwilio i lefel yr ymgynghori â Byrddau
Iechyd o ran yr effaith y bydd y Rheoliadau Drafft hyn yn ei chael arnynt, a
pham nad oes manylion costau nac asesiad effaith ar gyfer y gwasanaeth iechyd
wedi eu cynnwys gyda’r ymgynghoriad hwn?
a) Sut fyddai unrhyw gost a baich ar y GIG yn
cael eu cyfiawnhau?
6) Ymchwilio i lefel yr ymgynghori â grwpiau
lleiafrifol eraill (cymunedau Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, ffoaduriaid a
cheiswyr lloches a theuluoedd plant sy'n mynd i ysgolion annibynnol) er mwyn
sicrhau bod eu barn hwy hefyd wedi'i chofnodi?
7) Ymchwilio a yw’r costau a awgrymir yn y
Drafft yn realistig ac a ydynt yn ffordd effeithiol ac effeithlon o ddefnyddio
arian trethdalwyr o ystyried bod rheoliadau digonol ar waith eisoes i alluogi
awdurdodau lleol i nodi plant sy’n colli addysg, gyda mecanweithiau sy’n
galluogi awdurdodau lleol i greu Gorchymyn Goruchwylio Addysg neu Orchymyn
Mynychu’r Ysgol mewn achosion lle nodir bod plentyn yn colli addysg?
A fyddai cynyddu’r cyllid a chymorth i wasanaethau
cymdeithasol yn lle yn fwy effeithiol ac effeithlon?
Gwybodaeth Ychwanegol
Targedau Asesu
Effaith Penodol:
“helpu i sicrhau bod plant yn datblygu ac yn
cyrraedd eu potensial llawn, ac yn lleihau’r posibilrwydd na fyddant mewn
addysg, cyflogaeth na hyfforddiant”
“cefnogi’r nod o greu Cymru fwy cyfartal,
cymdeithas sy’n galluogi plant a phobl ifanc i arfer eu hawliau a chyflawni eu
potensial, ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau”
“Ysgogir y cynigion hyn gan yr angen i gefnogi hawl
plant i addysg a sicrhau eu bod nhw, a’u rhieni, yn cael eu grymuso a’u bod yn
teimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio gwasanaethau cyffredinol a gwasanaethau
wedi’u targedu sydd â’r nod o gefnogi eu llesiant”
“sicrhau bod pob plentyn yn arfer ei hawl i gael
addysg yn unol ag Adran 7 o Ddeddf Addysg 1996 a bod pob plentyn yn cael cyfle
i ddatblygu a gwireddu eu huchelgeisiau.”
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 07/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Yn
sgîl cyhoeddiad y Gweinidog Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig yn parhau
yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i nodi'r ddeiseb a'r
pryderon a godwyd ond y bydd yn cau'r ddeiseb ar hyn o bryd, gan ddiolch i'r
deisebwyr am godi’r mater hwn.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/07/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Castell-nedd
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2020