P-05-972 Dylid darparu o leiaf bedair awr y dydd o addysg fyw i bob disgybl tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19

P-05-972 Dylid darparu o leiaf bedair awr y dydd o addysg fyw i bob disgybl tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19

Wedi'i gwblhau

 

P-05-972 Dylid darparu o leiaf bedair awr y dydd o addysg fyw i bob disgybl tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Siobhan King, ar ôl casglu cyfanswm o 100 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Nid yw plant yng Nghymru wedi bod i’r ysgol ers 20 Mawrth a prin iawn yw’r addysg wyneb yn wyneb a ddarparwyd i ddisgyblion ysgolion gwladol. Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw am o leiaf bedair awr o addysg wyneb yn wyneb yn fyw ar-lein bob dydd.

 

A group of people in a room

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a ddaeth i law ac, yn sgil gwaith craffu parhaus ar fynediad i addysg tra bod ysgolion wedi cau sy’n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/07/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2020