Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown AS

 

2.

Deisebau Covid-19

2.1

P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

 

·                     ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i rannu’r dadleuon manwl a gyflwynwyd gan y deisebydd ynghylch digonolrwydd canllawiau Llywodraeth Cymru, gan ofyn ei barn ar y materion penodol a ganlyn:

·                     yn ei barn hi, a fyddai ceisiadau i ymestyn cyfleoedd astudio i bobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu yn sgil pandemig y coronafeirws yn debygol o fodloni’r prawf ‘amgylchiadau eithriadol’;

·                     a yw’r Llywodraeth yn bwriadu cyfathrebu â lleoliadau addysg arbenigol ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau dysgu i’w hannog i drafod a ddylid gwneud ceisiadau o’r fath ar gyfer eu myfyrwyr nhw; a

·                     chyhoeddi neges ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y camau y mae’r Pwyllgor yn eu cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

 

3.

Deisebau newydd

3.1

P-05-947 Dylai llythyrau meddygon teulu fod am ddim i fyfyrwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn cytuno a ddylid cymryd camau eraill ynghylch y ddeiseb.

 

3.2

P-05-950 Dysgu Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o oed 4 i 16 yn ein Hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn pa waith sy’n cael ei wneud i ddatblygu adnoddau dysgu ar y pynciau a amlygwyd i’r Pwyllgor a phryd y bydd yr adnoddau hyn ar gael i athrawon; ac i

·         aros am ymateb y deisebydd i’r wybodaeth y mae’r Gweinidog yn ei darparu.

 

 

3.3

P-05-951 Gosodwch derfyn ar uchafswm y geist bridio mewn sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn am y materion a ganlyn:

·         a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu dwyn yn ei flaen argymhelliad 9 yn yr Adolygiad o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (sy’n trafod gwneud rhagor o waith ymchwil i benderfynu ar y buddion o ran lles anifeiliaid) ar hyn o bryd ac yn ôl pa amserlen; ac

·         a fyddai modd cael y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeddfwriaeth arfaethedig ac a ellir cynnwys y mater hwn yn y ddeddfwriaeth honno.

 

 

3.4

P-05-953 Gwahardd poteli llaeth plastig defnydd untro mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i rannu’r adborth a ddaeth i law gan ddisgyblion ac i ofyn am ymateb i’w cais y dylai Llywodraeth Cymru brynu uned pergal i bob ysgol ledled Cymru. Cafodd disgyblion St Aidan’s Church in Wales VA School gryn glod gan aelodau’r Pwyllgor am eu deiseb.

3.5

P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr. Cefnogwch y cais am orsaf drenau yn Sanclêr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd y ffaith mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y mater hwn fel rhan o’i Chronfa Gorsafoedd Newydd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gefnogi’r cais am orsaf newydd yn Sanclêr, gan gytuno hefyd i gau’r ddeiseb. Hefyd, cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater hwn ac i fynegi eu siom na fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng Nghymru.

 

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd y datganiad o fuddiant a ganlyn gan Neil McEvoy yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A:

 

Roedd yn arfer cyflogi’r deisebydd ac roedd ar un adeg yn rhan o achos cyfreithiol gyda Cymru Ddiogelach.

 

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i rannu’r pryderon a fynegwyd gan y deisebydd, ac i ofyn y canlynol:

·         pryd fydd y broses o gomisiynu gwasanaethau cymorth i ddynion sy’n ddioddefwyr trais yn y cartref yn cael ei hadolygu nesaf; ac

·         a ellir gwneud ymrwymiad i gynnig cyfle i ddarparwyr eraill gyflwyno tendrau i ddarparu gwasanaethau penodol.

 

Gofynnodd Leanne Wood i gael ei gadael allan o gamau gweithredu pellach sy’n gysylltiedig â’r ddeiseb hon ac i hyn gael ei nodi’n glir yn y llythyr at y Gweinidog.

 

 

4.2

P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hyn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ofyn beth arall ellir ei wneud gan Lywodraeth Cymru, yn ei barn hi, i gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn syn dioddef trais yn y cartref.

 

4.3

P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         aros am ymateb gan y deisebydd; a

·         pharhau i gadw golwg ar y mater hwn a thrafod unrhyw wybodaeth newydd sy’n dod i law yn ystod gweddill tymor y Senedd hon.

 

4.4

P-05-893 Achub Ein Parciau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil yr ymatebion sydd wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n trafod materion fel y diogelwch a gynigir gan bolisïau cynllunio a gwrthod cyllid wedi’i neilltuo, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ac i gau’r ddeiseb.

 

4.5

P-05-865 Gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn iddo drafod opsiynau fegan fel rhan o’i adolygiad o’r adroddiad ar Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru: Caffael Cyhoeddus mewn cysylltiad â Bwyd. Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ddiolch i’r deisebwyr am godi’r mater, a hynny gan gytuno hefyd i gau’r ddeiseb.

 

 

4.6

P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i gau’r ddeiseb, o gofio bod Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi datgan nad yw hi’n cefnogi camau i fabwysiadu polisi cyffredinol ynghylch defnyddio’r termau hyn, er y byddai’n cefnogi camau i’w defnyddio fel y bo’n briodol. Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ddiolch i’r deisebwyr am ddwyn sylw at y mater hwn.

 

4.7

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni’r ffaith bod y gwelyau cyllyll môr yn Llanfairfechan yn parhau i fod ar gau, yn ogystal â’r gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ar ran Llywodraeth Cymru a’r ymrwymiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y byddai’n ystyried cwotâu dyddiol, y ddalfa fwyaf a ganiateir a chyfnodau cau, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd, felly dylid cau’r ddeiseb.

 

4.8

P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro....mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am y canlynol:

·         trosolwg o’r holl gamau gweithredu sydd wedi’u cymryd gan y Llywodraeth i fynd i’r afael â llygredd plastig fel cwpanau a chynhwysyddion bwyd polystyren; a

·         bod y gwaharddiad yn cael ei ymestyn i gynnwys polystyren untro. 

 

4.9

P-05-868 Diogelwch Dwr, Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dwr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am rhagor o wybodaeth am y camau i ddatblygu Strategaeth Diogelwch Dŵr i Gymru Gyfan ac am amserlen Grŵp Diogelwch Dŵr Cymru Gyfan, ac i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder oherwydd bod hwn yn fater sy’n effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd.

 

4.10

P-05-911 Dylid Diogelu Coed Yw Hynafol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni’r wybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru am yr amryw ffyrdd y gellir diogelu coed hynafol o dan y gyfundrefn gynllunio a gorchmynion gwarchod presennol, a’r ffaith bod Cadw wedi penderfynu nad yw’n briodol rhestru coed fel henebion, cytunodd aelodau’r Pwyllgor nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd, felly dylid cau’r ddeiseb.