P-05-893 Achub Ein Parciau yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Crispian Huggill, ar ôl
casglu cyfanswm o 244 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
parciau a mannau chwarae yn mynd yn adfail, neu maent dan fygythiad o gael
gwaith adeiladu arnynt neu gael eu gwerthu i ddatblygwyr.
Mae hyn er gwaethaf y manteision iechyd a
chymdeithasol hanfodol a gynigir gan y mannau gwyrdd hyn, sydd mor agos at ein calonnau.
Diben y ddeiseb hon yw ysgogi cefnogaeth i achub
ein parciau, ein meysydd chwarae a'n mannau agored rhag cael eu colli am byth,
i ddiwallu anghenion cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol ac ategu'r
rhwymedigaethau sydd ar gynghorau yng Nghymru o dan Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf yr Amgylchedd 2016.
Rydym eisiau:
1) Gofyniad statudol i gynghorau neilltuo cyllid
o £30 yr aelwyd y flwyddyn ar gyfer parciau.
2) Gweld dyletswydd gyfreithiol i bob man gwyrdd
gael ei reoli i safon dda.
3) Rheolau newydd yn gwahardd gwaith datblygu ar
barcdiroedd, gwerthu parcdiroedd neu ddefnyddio parcdiroedd yn amhriodol.
4) Cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu
cymorth brys i'r parciau sy'n wynebu'r perygl mwyaf a sicrhau dyfodol mannau
gwyrdd agored Cymru yn yr hirdymor.
5) Gofyniad cyfreithiol i bob cyngor weithredu
Strategaeth Mannau Agored yn unol â Safonau Meysydd Chwarae Cymru, Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a Deddf yr Amgylchedd 2016, ac iddynt
weithio gyda Meysydd Chwarae Cymru i ddiogelu a gwella'r holl fannau gwyrdd
agored cyhoeddus yng Nghymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/06/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yn sgil yr ymatebion sydd wedi
dod i law gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n
trafod materion fel y diogelwch a gynigir gan bolisïau cynllunio a gwrthod
cyllid wedi’i neilltuo, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau
pellach ac i gau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/09/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Senedd
- Gŵyr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/07/2019