P-05-911 Dylid Diogelu Coed Yw Hynafol Cymru
P-05-911 Dylid Diogelu Coed
Yw Hynafol Cymru
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Janis Fry, ar ôl casglu cyfanswm o 77 lofnodion ar bapur.
Geiriad
y ddeiseb:
Dyma ofyn i chi lofnodi fy neiseb yn galw am i
goed Yw hynafol gael eu diogelu yn ôl y gyfraith.
Ar hyn o bryd nid yw'r coed prydferth hyn yn
cael eu diogelu'n gyfreithiol. Mae'n hollbwysig i ni ddiogelu'r rhan hanfodol
hon o'n treftadaeth â mesurau diogelu cyfreithiol penodol cyn i ni golli rhagor
o goed. Mae'r coed Yw hyn wedi tyfu ym Mhrydain ers miloedd o flynyddoedd. Maen
nhw'n henebion byw ac yn dystion hynafol i hanes ein cyndeidiau a'n
gwareiddiad. Rhaid i ni eu diogelu ar fyrder cyn i ragor gael eu colli.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 09/06/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Yng
ngoleuni’r wybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru am yr amryw ffyrdd y
gellir diogelu coed hynafol o dan y gyfundrefn gynllunio a gorchmynion gwarchod
presennol, a’r ffaith bod Cadw wedi penderfynu nad yw’n briodol rhestru coed
fel henebion, cytunodd aelodau’r Pwyllgor nad oes llawer mwy y gellir ei
gyflawni ar hyn o bryd, felly dylid cau’r ddeiseb.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/11/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/10/2019