Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Estynnodd groeso
cynnes i Aelodau a staff Cydbwyllgor Trosolwg o Wasanaethau Cyhoeddus a
Deisebau, Senedd Gweriniaeth Iwerddon, a oedd yn arsylwi yn yr Oriel Gyhoeddus. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-630 Rheoliadau Facebook ar gyfer plant sy’n derbyn gofal Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
Y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi sylwadau pellach y deisebydd, ac i
ofyn a allai ef neu ei swyddogion gwrdd â’r deisebydd i drafod y materion
penodol a godwyd fel rhan o’r ddeiseb; ·
Y
Comisiynydd Plant i ofyn am ei barn; a ·
Plant yng
Nghymru i ofyn pa wybodaeth sydd ganddo am y mater hwn. |
|
P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
at: Ø Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd
Cymru; ac Ø Y RSPCA i ofyn eu barn am y ddeiseb. ·
Undeb y
Brigadau Tân, Cymru yn gofyn am wybodaeth am y sefyllfa yn Ne a Chanolbarth a
Gorllewin Cymru. |
|
P-04-632 Mynyddoedd Pawb Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at: Ø Gomisiynydd y Gymraeg, i ofyn am ei
barn am y ddeiseb; Ø Croeso Cymru a Chynghrair
Twristiaeth Cymru, o gofio amcan y deisebwyr i ddefnyddio’r mater hwn fel
ffordd o hyrwyddo mentrau twristiaeth awyr agored; Ø Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru;
ac Ø Y Dirprwy Weinidog, i ofyn ei farn
am sylwadau pellach y deisebydd; ·
Ceisio cael
cyngor cyfreithiol ar rôl Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, a allai’r
Llywodraeth gymryd rhan fwy uniongyrchol yn y broses, o bosibl drwy gyfrwng y
Bil Amgylchedd Hanesyddol, unwaith y caiff ei gyflwyno. |
|
P-04-633 Codi Ymwybyddiaeth o’r Band Eang Gwael yn Ein Hardal Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd
am lythyr y Dirprwy Weinidog Addysg a Sgiliau. |
|
Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
at y deisebydd yn diolch iddo am ei ateb ystyriol ac am ymgysylltu â’r broses
ddeisebu; a ·
Chau’r
ddeiseb, o gofio ei bod yn ymddangos bod digwyddiadau wedi symud ymlaen ers i’r
ddeiseb gael ei hystyried ddiwethaf. |
|
P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Aros am
ymateb gan y deisebwyr; ac ·
Ysgrifennu
at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn diolch iddo am ei ateb
defnyddiol, ac yn gofyn am gael gwybod am y prif gamau gweithredu y cytunwyd
arnynt o ganlyniad i gyfarfod cyntaf y grŵp gweithredu, a oedd i’w gynnal
ar 13 Mai. |
|
P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd, yng ngoleuni sylwadau’r
deisebydd, i ysgrifennu at: ·
Weinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Chyngor Sir Penfro yn gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella canol tref
Abergwaun; ac ·
Y
deisebydd, yn gofyn a oes unrhyw gamau pellach penodol y gallai’r Pwyllgor eu
cymryd i wneud cynnydd o ran y ddeiseb. |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Addysg a Sgiliau: ·
Yn gofyn am
ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd ac yn benodol, yn gofyn am ei farn ar
gynnig y deisebydd i sefydlu grŵp llywio i gynnwys arbenigwyr o bob
sector; ac ·
Yn diolch
iddo am addo i ddarparu diweddariad ysgrifenedig i’r Pwyllgor erbyn 5 Mehefin. |
|
P-04-581 Gwrthwynebiad i’r toriadau mewn ar gyfer Dysgwyr o Saesneg fel Iaith Ychwanegol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Ysgrifennu
at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn am ei sylwadau ar gynnwys llythyr
Cyngor Dinas Abertawe a’r feirniadaeth oblygedig a geir ynddo; ac ·
Aros am
sylwadau pellach gan y deisebydd. |
|
P-04-615 Taliad Benthyciad Teg i Fyfyrwyr yn y Flwyddyn Olaf o Hyfforddiant Dogfennau ategol:
Cofnodion: ·
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebydd. |
|
P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i nodi pryderon y
deisebydd wrth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. |
|
P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd Joyce
Watson am gofnodi ei bod yn aelod o’r RSPB. Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Drosglwyddo
llythyr yr Athro Fox i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar ei
gynnwys, ac ar y rheswm pam mae’n ymddangos bod Lywodraeth Cymru wedi dangos ei
bod yn erbyn diogelwch statudol i’r aderyn hwn er bod gwladwriaethau eraill
wedi sicrhau hynny; ·
Gofyn iddo
ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. |
|
P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Ysgrifennu
at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn iddi: o
ganiatáu
i’r Pwyllgor weld canlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol cyn gynted
ag y byddant ar gael; ac o
am ragor o
wybodaeth am y broses o ddewis y contractwyr a ddefnyddiwyd i gynnal yr
astudiaeth ddichonoldeb, ac yn benodol, pam nad contractwyr CADW a
ddefnyddiwyd; ·
am gael
ymweld â’r tu allan i’r Adeilad, gyda’r deisebydd, fel y gall yr Aelodau gael
dealltwriaeth well o gyflwr yr Adeilad. |
|
P-04-617 Stopiwch y Troslgwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i’r Sector Gwirfoddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
Y Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn ei farn am sylwadau
pellach y deisebydd; a ·
Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn am ei barn am lythyr y Dirprwy Weinidog. |
|
P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Ysgrifennu
eto at y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, gan gynnwys
unrhyw amcangyfrif ynghylch pryd y bydd gwaith i wella’r sefyllfa ar gyfer y
deisebydd yn debygol o ddigwydd. ·
Gwrthod y
cais am ymweliad safle ar hyn o bryd, o ystyried bod y lefel sŵn uchel yn
yr ardal yn cael ei dderbyn ar hyn o bryd. |
|
P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth a chytunwyd i: ·
Aros am
sylwadau gan y deisebydd, ac ·
Os bydd y
deisebydd yn cytuno, o ystyried bod llythyr y Gweinidog yn awgrymu bod prif fyrdwn
y mater a godwyd wedi cael ei gyflawni, i gau’r ddeiseb. |
|
P-04-614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Aros am
sylwadau pellach gan y deisebydd; ·
Ystyried
cau’r ddeiseb gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai’r Pwyllgor ychwanegu
unrhyw werth pellach. |
|
P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Ofyn am
sylwadau gan y deisebydd; ·
Ystyried
cau y ddeiseb gan fod llythyr y Gweinidog yn nodi nad yw pwnc y ddeiseb wedi’i
ddatganoli mewn gwirionedd. |
|
P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i ofyn i Weinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth am ei barn ar sylwadau pellach y
deisebydd. |
|
Gohebiaeth Papur i’w Nodi: Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r
Cadeirydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a
chytunodd i weithio gyda Chydffederasiwn y GIG i helpu i hwyluso atebion gan
Fyrddau Iechyd Lleol. 4.2 Yn
dilyn cynnig gan y Cadeirydd, cytunodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i
benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod er mwyn trafod mater sy’n ymwneud â
busnes mewnol y Pwyllgor. |