P-04-632 Mynyddoedd Pawb
Testun
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i ddarbwyllo cyrff a sefydliadau i ddiogelu a pharchu ein
cyfoeth o enwau lleoedd er mwyn:
1) ysgogi parch a diddordeb yn yr iaith Gymraeg ac i
sicrhau a chynyddu'r defnydd ohoni.
2) cynyddu'r ymdeimlad o hunaniaeth ymysg cymunedau lleol
drwy rannu cyfoeth ein treftadaeth ddiwyllianol gydag eraill.
3) ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth ymwelwyr o gyfoeth
ein treftadaeth leol a thrwy hynny ddod a buddion addysgol ac economaidd i
ardaloedd.
Gellid cyflawni hyn trwy:
• weithio gyda chanolfannau awyr agored er mwyn codi eu
hymwybyddiaeth o enwau lleoedd traddodiadol brodorol, ac er mwyn eu cefnogi i
ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
•tynnu sylw at gyfoeth ein henwau lleoedd o ran ein
treftadaeth ddiwylliannol, a’r hyn y gallant ei gyfleu trwy addysgu am hanes,
daearyddiaeth, chwedloniaeth a defnydd tir hanesyddol ein gwlad.
•darbwyllo Llywodraeth Cymru i ddod ag enwau lleoedd traddodiadol
a hir sefydlog dan reolaeth gynllunio.
(Mae deiseb ysgrifenedig yn cyd-redeg.)
Gwybodaeth
ychwanegol
Rydym o’r farn y dylid codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd
diogelu enwau lleoedd Cymraeg, a bod gan sefydliadau a chymdeithasau
gwirfoddol, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ran allweddol yn y
gorchwyl. Hefyd, dylai ysgolion sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i
werthfawrogi cyfoeth enwau lleoedd Cymraeg fel rhan o'u treftadaeth
genedlaethol.
Credwn y dylai enwau lleoedd ynghyd a'r dreftadaeth a'r
hanes sy'n gysylltiedig â nhw, fod yn rhan annatod o gyrsiau astudiaethau'r
amgylchedd mewn addysg bellach ac addysg uwch, ac o gyrsiau gweithgareddau awyr
agored sy’n cael eu rhedeg gan gyrff eraill. Dylid sicrhau bod cyrff hyfforddi,
canolfannau a chlybiau sy’n ymwneud â mynydda a gweithgareddau awyr agored yn
cael eu hannog i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg.
Gofynnwn i’r Cynulliad Cenedlaethol bwysleisio
pwysigrwydd hyn oll i Lywodraeth Cymru, fel y gall ddarbwyllo awdurdodau lleol,
Cyfoeth Naturiol Cymru,Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac Awdurdodau'r Parciau
Cenedlaethol, ynghŷd a chyrff eraill yn y sectorau statudol, cyhoeddus,
gwirfoddol a phreifat, i gymryd camau priodol i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg.
Prif
ddeisebydd: Mynyddoedd Pawb
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 1,026
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/05/2015