P-04-615 Taliad Benthyciad Teg i Fyfyrwyr yn y Flwyddyn Olaf o Hyfforddiant

P-04-615 Taliad Benthyciad Teg i Fyfyrwyr yn y Flwyddyn Olaf o Hyfforddiant

Mae'r taliad i fyfyrwyr bydwreigiaeth a gofal iechyd yn y flwyddyn olaf wedi'i ostwng yn sylweddol, gan nad yw'n cymryd i ystyriaeth yr wythnosau ychwanegol yn astudio na'r wythnosau a dreulir mewn lleoliad gwaith ym mis Awst. Caiff y taliad benthyciad ei ad-dalu pan fydd y myfyriwr mewn cyflogaeth, ond mae hyn yn effeithio ar y flwyddyn olaf o gymaint â £150 y tymor. Mae Gofal Iechyd yn radd cwbl wahanol o ran theori a lleoliadau gwaith, ac mae'n parhau drwy fis Awst, pan fydd cyrsiau eraill yn cael egwyl ar gyfer gwyliau haf.

Hoffem pe bai'r system benthyciadau i fyfyrwyr yn cymryd cynnwys y cwrs yn y drydedd flwyddyn i ystyriaeth, a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y taliadau benthyciadau a roddir i fyfyrwyr bydwreigiaeth a myfyrwyr gofal iechyd.

 

Prif ddeisebydd:  Maryanne Bray 

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

 

Nifer y llofnodion: 47

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2015

Dogfennau