P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Ymgynghorydd/Clinig a thîm cymorth meddygol
pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder
Cronig a Ffibromyalgia yn cael eu sefydlu yn ne-ddwyrain Cymru. Gofynnaf i’r
ddeiseb hon gael ei thrin fel llais swyddogol dioddefwyr ME, eu teuluoedd, eu
gofalwyr a phawb sydd â diddordeb.
Ar hyn o bryd, gydag ychydig eithriadau, nid yw’r proffesiwn
meddygol yn rhoi cymorth i ddioddefwyr yr anhwylderau uchod. Nid yw’r bobl hyn
yn gallu gweithio, ond ymddengys nad yw’r cyrff sydd yn eu hasesu ar ran y
Llywodraeth yn deall eu problemau. Dyna yw sail y ddeiseb hon.
Prif
ddeisebydd M.E.S.I.G. (M.E
Support in Glamorgan)
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 368 llofnod a’r lein a 826 llofnod papur. Cyfanswm
1,196
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014
Dogfennau