P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Coed Cadw, ar
ôl casglu 2,708 o
lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i
leihau'r risg o lifogydd i filoedd o gartrefi drwy'r wlad drwy gefnogi plannu o
leiaf 10 miliwn coeden dros y pum mlynedd nesaf, gan greu perthi, lleiniau coed
a mannau coediog wedi'u targedu yn y mannau gorau ar gyfer amsugno'r dŵr ac arafu dŵr ffo. Byddai plannu'r coed hyn
yn cyfrif tuag at nod bresennol Llywodraeth Cymru i blannu 100,000 hectar o
goed i amsugno carbon deuocsid o'r awyrgylch.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/04/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio
ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 18/02/2014.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Llanelli
De Caerdydd an Phenarth
·
Canol
De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2014