P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr

P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr

Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i ymestyn y gostyngiad i fusnesau bach y tu hwnt i fis Mawrth 2015. Yn ogystal, rydym yn gofyn am i'r penderfyniad gael ei wneud a'i gyhoeddi cyn gynted â phosibl—yn ddelfrydol, cyn diwedd 2014, fel nad oes oedi o ran cynllunio a datblygu busnes.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Busnesau bach yw asgwrn cefn Canol Trefi a'n Strydoedd Mawr. Mater o frys yw hwn, o ran cefnogi adfer busnes a chychwyn busnesau, ac o ran atal y dirywiad yn ein trefi a'n cymunedau.

 

Prif ddeisebydd:   Lynne Wilson

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 20 Ionawr 2015

 

Nifer y llofnodion: 47 llofnod a’r lein

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/11/2014

Dogfennau