P-04- 614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru

P-04- 614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru

Credir y bydd Trenau Arriva Cymru yn cyhoeddi cyn bo hir eu bwriad i ddod â'u gwasanaeth dosbarth cyntaf rhwng Caergybi a Chaerdydd i ben. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o'u gwasanaeth 'Premier', sy'n rhedeg bob diwrnod gwaith.

Mae'n debyg mai ymateb fydd hyn i benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth hwn ddechrau 2015.

Mae'r ddeiseb hon yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried eu penderfyniad i roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth gwerthfawr a phoblogaidd hwn, neu o leiaf i annog Trenau Arriva Cymru i barhau â'r gwasanaeth cystal ag y gallant drwy ddulliau eraill.

 

Gwybodaeth Ychwanogol

Y gwasanaeth dosbarth cyntaf hwn gan Trenau Arriva Cymru (neu wasanaeth Gerallt Gymro, fel y caiff ei alw hefyd) yw un o'r ychydig wasanaethau rheolaidd ar rwydwaith rheilffyrdd Prydain sy'n parhau i gynnig prydau bwyd o safon.

Byddai'n drueni mawr colli'r gwasanaeth hwn, nid yn unig o safbwynt y teithwyr, ond hefyd o safbwynt y staff a'r criw ar y trên sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod teithio ar y trên hwn yn brofiad mor werth chweil.

 

Prif ddeisebydd:  Gareth Peate

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

 

Nifer y llofnodion: 54

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2015

Dogfennau