P-04-581 Gwrthwynebu’r Toriadau yn y Ddarpariaeth ar gyfer Dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol

P-04-581 Gwrthwynebu’r Toriadau yn y Ddarpariaeth ar gyfer Dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau yn y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol mewn ysgolion. Mae angen cyllid ychwanegol i atal disgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol rhag cael eu gwthio i’r cyrion mewn ysgolion drwy ddarparu cymorth arbenigol gyda’r nod o gynyddu safonau addysgol a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

 

Mae’r gostyngiad yn y Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig yn cael effaith unigryw ar ddisgyblion lleiafrifoedd ethnig ar adeg pan mae’r nifer fwyaf erioed o ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn ein hysgolion. Mae’r diffyg ymgynghori wedi methu ag ystyried graddfa, cwmpas ac effaith y cymorth hwn o ran unigolion, eu teuluoedd a llwyddiant yr ysgol gyfan.

 

Prif ddeisebydd : Helen Myers

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

 

Nifer y llofnodion:  37

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2014

Dogfennau