P-04-617 Stopiwch y Troslgwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i'r Sector Gwirfoddol
Rydym yn galw ar y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant i
dderbyn, ar unwaith, argymhelliad III yn yr Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd
Cyhoeddus yng Nghymru 2014 (Ni ddylid gweithredu newidiadau i wasanaethau llyfrgelloedd
cyhoeddus cyn cynhyrchu dewisiadau wedi’u costio). Ar ben hynny, dylai’r
Dirprwy Weinidog bellach fod yn cynghori pob awdurdod lleol yng Nghymru y bydd
y gofyniad hwn yn effeithiol ar gyfer newidiadau arfaethedig a gyhoeddir ar ôl
dyddiad cyhoeddi'r Adolygiad Arbenigol (22 Hydref 2014) a hefyd ar gyfer
cynigion a gyhoeddwyd cyn y dyddiad hwnnw, lle mae ymgynghoriad cyhoeddus yn
dod i ben ar ôl 22 Hydref 2014. Mae angen y camau hyn i atal y pentwr o
gynigion gan Fro Morgannwg ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i drosglwyddo
ein llyfrgelloedd cyhoeddus i'r sector gwirfoddol heb roi ystyriaeth briodol i
opsiynau eraill
Prif
ddeisebydd: Adam Riley -
Save Rhoose Library
Ystyried
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
o llofnodion: 66
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/03/2015
Dogfennau