P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi mesurau ar waith i
sicrhau bod rhieni a gwarcheidwaid plant yng Nghymru yn gallu cael mynediad
rhwydd at wybodaeth am bresenoldeb asbestos mewn adeiladau ysgolion a beth a
wneir i’w reoli.
O ystyried y risg
i iechyd sy’n gysylltiedig â phresenoldeb asbestos mewn adeiladau cyhoeddus,
credwn fod gan rieni a gwarcheidwaid yng Nghymru yr hawl i:
• gael gwybod os
oes asbestos yn ysgolion eu plant;
• cael gwybod, os
oes asbestos yn yr ysgol, ei fod yn cael ei reoli yn unol â Rheoliadau Rheoli
Asbestos 2012;
• cael mynediad
rhwydd at y wybodaeth honno ar-lein.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
26/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a ddaeth i law, ynghyd â’r wybodaeth lefel uchel
a ddarparwyd ynghylch presenoldeb asbestos mewn adeiladau ysgolion yng Nghymru.
Gwnaeth y Pwyllgor gydnabod nad yw hyn yn diwallu holl ofynion y deisebydd,
fodd bynnag, yn sgil yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r ddeiseb hon ers ei
chyflwyno yn y lle cyntaf, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach
o ddefnydd y byddai’n gallu eu cymryd ar yr adeg hon. Cytunodd yr Aelodau i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/12/2013.
Prif ddeisebydd: Cenric Clement-Evans
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 10 Rhagfyr 2013
Nifer y llofnodion: 448
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2013
Dogfennau
- Cover sheet PDF 25 KB Gweld fel HTML (1) 10 KB
- 20.04.15 Correspondence - Minister for Education & Skills to the Chair PDF 140 KB
- 06.05.15 Correspondence - Petitioner to the Committee PDF 41 KB Gweld fel HTML (3) 6 KB
- 06.05.15 Correspondence - TORs 2011-02-22 asbestos in schools SG ToR (2) pdf PDF 64 KB
- 06.05.15 Correspondence - The management of asbestos in schools -DfE Reporr PDF 331 KB
- 06.05.15 Correspondence - DfE Review Comment AiS JUAC 5 May 15 (pdf) - Copy PDF 640 KB