Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(9.00 - 9.30) |
Deisebau newydd |
|
P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd, Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-571 Trin Anemia Dinistriol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei farn am y
ddeiseb. |
||
P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y canlynol i geisio eu barn: ·
Y Gweinidog Tai ac Adfywio a ·
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghylch sawl un o awdurdodau lleol
Cymru sydd yn yr un sefyllfa ag Abertawe. |
||
P-04-574 Gwasanaethau Bws ym Mhorth Tywyn Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y
ddeiseb. |
||
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn am y ddeiseb; ac at ·
y deisebwyr i'w hysbysu am amserlen y Bil Cynllunio (Cymru). |
||
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau ·
Comisiynydd Plant Cymru, a ·
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a'r
Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y
ddeiseb. |
||
(9.30 - 11.00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-541Cefnogaeth i'r Mentrau Iaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn
i'r Prif Weinidog am ei ymateb i sylwadau'r deisebwyr. |
||
P-04-548 Ailgyflwyno dosbarthiadau Cymraeg ym Mhrifysgol Rennes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch
y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Addysg Uwch Cymru i weld a fyddai modd
iddo gefnogi darpariaeth yn Rennes. |
||
P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ystyried trefnu
sesiwn dystiolaeth lafar gyda'r deisebydd, yn dibynnu ar yr ymateb gan y
Gweinidog ynghylch P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru. |
||
P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i geisio
barn y Gweinidog am ohebiaeth y deisebwyr. Yn dilyn ymateb y Gweinidog,
cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ystyried trefnu sesiwn dystiolaeth lafar gyda
deisebwyr P-04-480 Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat. |
||
P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am
farn y Gweinidog am ohebiaeth y deisebydd. |
||
P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y
wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog unwaith y bydd adroddiad y Pwyllgor Lles
Anifeiliaid Fferm i Lywodraeth Cymru yn dod i law ac wedi ei ystyried. |
||
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y
wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog unwaith y bydd adroddiad y Pwyllgor Lles
Anifeiliaid Fferm i Lywodraeth Cymru yn dod i law ac wedi ei ystyried. |
||
P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn
i'r Gweinidog newydd am ei ymateb i sylwadau pellach y deisebwyr. |
||
Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am y cynnydd o ran penodi olynydd i Dr
Andrew Goodall fel Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru ac am y cynnydd o
ran y materion eraill a nodwyd gan y deisebwyr; ac ·
yn gofyn am ymatebion gan y Byrddau Iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr
gwreiddiol y Pwyllgor. |
||
P-04-545 Gweithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ddangos ymateb y bwrdd iechyd lleol i'r Gweinidog, yn dilyn ei gais am
hynny (gan gynnwys y wybodaeth am y cynllun rhithwir ar gyfer cleifion mewnol),
a ·
cheisio barn y deisebwyr am yr ymatebion a gafwyd. |
||
P-04-543 Dim cynnydd mewn ffioedd dysgu prifysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Gweinidog roi gwybod i'r Pwyllgor am ganlyniad adolygiad Syr Ian
Diamond; a ·
gofyn i'r Tîm Clercio geisio sefydlu cyswllt i weithredu fel prif ddeisebydd
ac wrth wneud hynny gofyn am eu barn am ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch
y ddeiseb a mynegodd rhywfaint o bryder ynghylch rhai datganiadau yn llythyr y
deisebwr. Cytunodd y Pwyllgor i: ·
aros am ymateb llawn y deisebydd ac i ystyried yr holl
bapurau mewn cyfarfod yn y dyfodol; ·
ceisio barn Cymorth i Ferched Cymru ar ohebiaeth y deisebydd;
ac ·
yng ngoleuni'r ymatebion, gwneud penderfyniad ynghylch cau'r
ddeiseb. Cyn cau'r cyfarfod, atgoffodd y
Cadeirydd yr Aelodau y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 23
Medi 2014. |
||
Trawsgrifiad |