P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd,
P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd,
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i
gynnal y profion cenedlaethol ar gyfer plant ysgolion cynradd.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Rwy’n credu bod y Profion Cenedlaethol ar gyfer plant ysgolion cynradd yn
achosi straen a gofid dianghenraid i blant ifanc. Dylai plant deimlo eu bod yn cael eu cefnogi
yn yr ysgol a bod ag agwedd gadarnhaol tuag ati, nid teimlo dan bwysau a phoeni
am wneud yn dda mewn amgylchedd arholiad afrealistig sydd ond yn gwobrwyo’r
rhai sy’n cyflawni’n dda dan amodau o’r fath ac yn cosbi’r rhai nad ydynt yn
gwneud cystal. Mae gosod plant yn erbyn
ei gilydd a’u gorfodi i ystyried canlyniadau ‘methiant’, a hwythau mor ifanc,
yn greulon. Mae athrawon proffesiynol
hefyd yn condemnio’r Profion Cenedlaethol gan ddweud eu bod yn aneffeithiol fel
ffordd o gymell a mesur ac nad ydynt yn gweithio o ran pennu potensial plant
ifanc a’u gwybodaeth gyfredol.
Prif
ddeisebydd Alexander Roberts
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 15
Mehefin 2014
Nifer
y llofnodion: 123
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2014