P-04-571 Trin Anemia Niweidiol
Rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i newid y ffordd y caiff Anemia Niweidiol ei drin, o’r fformat
bresennol o drin pawb yn yr un ffordd, at drefn sy’n seiliedig ar anghenion y
claf unigol, a lle y caiff y claf ddewis sut y mae am gael ei therapi adfer B12,
gan gynnwys pigiadau a gaiff eu rhoi gan y claf ei hun.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Y driniaeth a roddir yn arferol ar gyfer Anemia Niweidiol yw presgripsiwn o un
pigiad bob tri mis. I nifer fawr o gleifion, mae hyn yn gwbl annigonol. Fe
wnaiff rhai meddygon roi presgripsiwn am bigiadau mwy aml, ond pan na wneir
hyn, mae cleifion yn cael gafael ar bigiadau B12 o ffynonellau amrywiol, gan
gynnwys y rhyngrwyd, ac mae hynny’n anfoddhaol. Bydd y cleifion wedyn yn rhoi’r
pigiad iddynt eu hunain heb unrhyw hyfforddiant, a heb ddefnyddio clytiau sychu
gwrthseptig na biniau offer miniog cloadwy..
Prif
ddeisebydd The Pernicious Anaemia
Society
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 15 Mehefin 2014
Nifer
y llofnodion: 91
Trafodwyd
y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/09/2014
Dogfennau