Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Naomi Stocks  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

9.00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

 

9.00 - 9.15

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-478 Pecyn gwybodaeth syml i bawb yng Nghymru yn esbonio sut y gallant sefyll fel ymgeisydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ofyn am ei barn ar y ddeiseb.

 

 

2.2

P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr i ofyn am ei farn ar y ddeiseb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

 

2.3

P-04-480 Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.

 

Nododd y Pwyllgor y posibilrwydd ei fod am edrych ar y mater yn fanylach ar ôl cael ymateb gan y Gweinidog.

 

Nododd y Cadeirydd a Russell George AC eu bod ill dau wedi cwrdd â'r deisebwyr am y mater.

 

 

2.4

P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.

 

 

2.5

P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i roi gwybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ofyn am ei barn ar y ddeiseb.

 

 

2.6

P-04-483 Polisi Cymraeg Clir / Plain English ar gyfer pob cyfathrebiad y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         Yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb gan ei bod yn ymwneud â Llywodraeth Cymru; a 

·         Phrif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn am ei barn ar y ddeiseb.

 

 

9.15 - 9.45

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-462 Gwahardd codi baner y Deyrnas Unedig ar adeiladau swyddogol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am eglurhad o'r polisi ar faneri, ac yn benodol am y polisi ynghylch y faner Ewropeaidd.

 

 

3.2

P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am yr oedi yn y gwaith adeiladu a sut y bydd y tagfeydd traffig yn cael eu datrys yn y cyfamser.

 

 

3.3

P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i:

·         aros am ganlyniadau'r adolygiad o derfyn cyflymder; ac

·         ysgrifennu at y deisebydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.

 

Cynigiodd Joyce Watson AC gwrdd â'r deisebwyr ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn ddiweddarach.

 

 

3.4

P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebwr am yr ymatebion.

 

 

3.5

P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i:

·         aros am ganlyniadau'r adolygiad o derfyn cyflymder; ac

·         ysgrifennu at y deisebydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.

 

 

3.6

P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gael briff cyfreithiol am y ddeiseb ac ystyried cau'r ddeiseb ar ôl i hyn gael ei ystyried.

 

 

3.7

P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ofyn am eglurhad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd o'r amserlen ar gyfer ymdrin â'r mater.

 

 

3.8

P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ofyn am eglurhad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd o'r amserlen ar gyfer ymdrin â'r mater.

 

 

3.9

P-04-402 Gweddïau Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth gan rannu gohebiaeth a gafwyd gan Un Llais Cymru i dynnu sylw at y ffaith eu bod o blaid yr angen i Lywodraeth Cymru gynhyrchu canllawiau cyfreithiol; ac

·         aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog.

 

 

3.10

P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan ei bod wedi'i nodi mewn gohebiaeth flaenorol bod y Safonau Ansawdd yn cael eu mabwysiadu.

 

 

3.11

P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty

Dogfennau ategol:

3.12

P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

3.13

P-04-430: Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod

Dogfennau ategol:

3.14

P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd

Dogfennau ategol:

3.15

P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y deisebau a chytunodd i:

·         grwpio deiseb P-04-455 gyda'r deisebau eraill sy'n gysylltiedig â Hywel Dda;

·         ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda ynghylch Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod yn gofyn a fyddent yn gallu bodloni'r amodau a bennir gan y cyngor iechyd cymuned wrth ddarparu gwasanaeth mân anafiadau yn Ninbych-y-pysgod; ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip ac Ysbyty Llwynhelyg a gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd penderfyniad terfynol wedi'i wneud.

 

 

3.16

P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn pryd mae disgwyl i'r ymchwiliad ddechrau, a'r dyddiad y disgwylir ei gwblhau.

 

 

3.17

P-04-461 Achub Pwll Padlo Pontypridd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; a

·         cheisio barn y deisebwr am yr ohebiaeth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

 

O dan Reol Sefydlog 17.47, gohiriodd y Pwyllgor y cyfarfod i aros am y tystion.

 

 

09.54 - 10.18

4.

P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi: Sesiwn Dystiolaeth

Ian Thomas, Cyfarwyddwr Cymru, Scope

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y deisebwr gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

 

09.45 - 10.15

5.

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf: Sesiwn Dystiolaeth

Dr John Cox, Deisebydd

 

Lynne Neagle, Aelod Cynulliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y deisebwr a Lynne Neagle AC gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Elin Jones AC am ei gwaith ar y Pwyllgor Deisebau.