P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i rhoi wybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol
P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i rhoi wybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol
Rydym yn galw
ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu
system genedlaethol i osod hysbysfyrddau cyhoeddus mawr (tua 5x4 troedfedd
fel enghraifft) ym mhob awdurdod
lleol a ward etholiadol
Cymru, yn rhoi gwybod yn glir
i bawb pwy yw eu Cynghorwyr
ac Aelodau Cynulliad lleol, ac yn cynnwys
gwybodaeth glir am sut, ble a phryd
y gellir cysylltu a chyfarfod â hwy i gyd, a gwybodaeth reolaidd a diweddar am ble a phryd y cynhelir
holl gyfarfodydd y cyngor lleol.
Mae gwir angen i bobl gael
gwybod pwy yw eu cynrychiolwyr
gwleidyddol ar bob lefel, gyda hysbysfyrddau
sy’n cynnwys gwybodaeth glir ac eglur wedi’u lleoli’n
ganolog ym mhob awdurdod lleol
a ward etholiadol Cymru. Gellid
hefyd ystyried rhoi oriau a lleoliadau
cymorthfeydd, a chyfarfodydd
y cyngor o bosibl, i gael eu safoni ledled Cymru (e.e. 1-3pm ar ddydd
Sadwrn cyntaf pob mis mewn
canolfannau cymunedol lleol ledled Cymru fel enghraifft gyffredinol) fel y gall pobl ryngweithio a chysylltu â’u cynrychiolwyr
yn fwy effeithiol.
Bydd hyn i gyd yn
annog dinasyddion Cymru i ymwneud yn fwy
â democratiaeth eu gwlad a’u cymunedau.
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
14 Mai 2013
Nifer y llofnodion : 11
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/05/2013