P-04-431 : Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tîm Achub Ysbyty
Llwynhelyg.
Casglwyd deiseb gysylltiedig tua 14,000 o lofnodion. O’r 14,000 o lofnodion,
casglwyd dros 10,000 ohonynt ar gyfer deiseb a oedd yn galw yn benodol am achub
yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg, a chasglwyd 4,000 o
lofnodion ar gyfer deisebau a oedd yn galw am ddiogelu pob gwasanaeth yn Ysbyty
Llwynhelyg.
Geiriad
y ddeiseb
Mae SWAT (Tîm Gweithredu i
Achub Ysbyty Llwynhelyg) wedi brwydro i gadw gwasanaethau gofal iechyd eilaidd
diogel, effeithiol a hygyrch i bobl Sir Benfro ers 2005.
Ar
ran SWAT, galwaf ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
sicrhau bod y cynlluniau ar gyfer darparu Gofal Iechyd Eilaidd, y mae
ymgynghoriad yn cael ei gynnal arnynt ar hyn o bryd yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol
Hywel Dda, yn cynnal y lefel bresennol o wasanaethau sydd ar gael yn Ysbyty
Llwynhelyg. Nid yw’r 14,000 o bobl a lofnododd y deisebau a ddosbarthwyd i’ch
swyddfa gan SWAT yn cytuno â’r opsiwn a ffefrir, sef bod Bwrdd Iechyd Lleol
Hywel Dda yn canoli’r rhan fwyaf o wasanaethau cleifion mewnol yn safle
Glangwili. Mae’n eithaf clir i bobl Sir Benfro a thu hwnt sydd wedi llofnodi’r
deisebau hyn, os oes yn rhaid canoli gwasanaethau, mai Ysbyty Llwynhelyg yw’r
safle y dylid ei ffafrio. Byddai hyn yn sicrhau darparu gwasanaeth gofal iechyd
eilaidd teg, hygyrch, diogel a chynaliadwy i ardal gyfan Bwrdd Iechyd Lleol Hywel
Dda tra byddai canoli gwasanaethau yn safle Glangwili yn rhoi pobl Sir Benfro o
dan anfantais ddifrifol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/04/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio
ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/11/2012.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Preseli
Sir Benfro
·
Canolbarth
a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2017