P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhwydwaith Gweithredu Tywysog Philip, ar ôl casglu tua 24,000
o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym ni, pobl
Llanelli, y dref â’r boblogaeth fwyaf yn ardal Hywel Dda, yn mynnu bod Ysbyty
Tywysog Philip yn cael ei adfer yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth cwbl weithredol,
a bod llawfeddygaeth ddewisol fawr yn dychwelyd yno, gan gynnwys llawfeddygaeth
gastroberfeddol, fasgwlaidd, ac ym meysydd wroleg, gynecoleg a thrawma. Byddai
hynny wedi’i gefnogi gan y 5 gwely Uned Therapi Dwys gwreiddiol, a fyddai
wedi’u staffio’n llawn, ac a fyddai’n cefnogi Adran Damweiniau ac Achosion Brys
wedi’i staffio’n llawn, y byddai arbenigwyr ymgynghorol yn ei harwain, gan
ddarparu cymorth i’r meddygon.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/04/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebwyr am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/05/2012
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Llanelli
·
Canolbarth
a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2017