Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. |
|
Sesiwn gyda’r Athro Cristina Leston-Bandeira Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor ganfyddiadau ymchwil am y rhwystrau i
ymgysylltu â seneddau gan yr Athro Cristina Leston-Bandeira. |
|
P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol Robin Waddell,
Cyfarwyddwr Datblygu Greenbelt Adam Cooper,
Cyfarwyddwr Cyfreithiol Grŵp
Greenbelt Colin Thomson,
Rheolwr Gyfarwyddwr Greenbelt Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robin Waddell,
Cyfarwyddwr Datblygu Greenbelt, Adam Cooper, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Grŵp Greenbelt a Colin Thomson, Rheolwr Gyfarwyddwr
Greenbelt. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1377 Dylid gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig Parc Solar Caenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar
agor nes y bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y Gweinidog yn dilyn casgliad
y broses Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. |
|
P-06-1378 Rydym am i gymorthdaliadau fferm gael eu hymestyn i arddwyr bach a garddwyr marchnad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar
agor nes y bydd canlyniad yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar
gael. |
|
P-06-1379 Gwahardd gwerthu e-sigaréts untro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar
agor a chytunodd i ofyn am ddiweddariad ar y mater ymhen 12 mis. |
|
P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn
o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi cwrdd â'r deisebydd yn y gorffennol ynglŷn â mater ar
wahân. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
yn ôl at y Gweinidog i ddarparu sylwadau’r deisebwyr ac i ofyn am ymateb i’r
cwestiynau a godwyd. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ofyn i'r gwasanaeth ymchwil a
oes cynlluniau i ddefnyddio bathodynnau glas fel dull adnabod i bleidleisio
mewn etholiadau. |
|
P-06-1383 Dylid oedi prosiectau solar a gwynt ar y tir dros 10 MW hyd nes y caiff potensial llawn ynni gwynt ar y môr ei gynnwys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod ymateb y
Gweinidogion i’r Pwyllgor yn glir ac nid ydynt yn cefnogi moratoriwm. Daeth yr
Aelodau i'r casgliad, yng ngoleuni hyn, na allai'r Pwyllgor fynd â'r mater a
godwyd yn y ddeiseb ymhellach a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack Sargeant AS a Peredur Owen Griffiths AS y
buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'r ddau ohonynt yn adnabod y deisebydd. Cyfeiriodd Peredur Owen Griffiths AS bobl at ei ddatganiad
buddiannau hefyd a'i fod wedi bod ar seminar wythnos waith pedwar diwrnod â
thâl o'r blaen. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros nes y
bydd gwaith yr is-grwpiau wedi dod i ben ar y mater hwn. |
|
P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac estynnodd ddiolch i
Tassia am ei hymgysylltiad parhaus â’r Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau i
ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog er mwyn cael eglurhad ynghylch y penderfyniadau
a wnaed gan y Bwrdd Rhwydwaith Canser ac i ofyn am ymateb i’r sylwadau pellach
a godwyd gan Tassia. |
|
P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl ag EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog i rannu cwestiynau pellach y deisebydd ac i ofyn am ymateb. |
|
P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu’r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am
ganlyniad ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar fynediad
cyfartal at addysg a gofal plant i blant a phobl ifanc anabl, ac aros am ymateb
Llywodraeth Cymru i'r ymchwiliad, cyn ystyried a yw'r materion a godwyd yn y
ddeiseb wedi cael sylw. |
|
P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom
ynghylch y diffyg cynnydd ers cau’r ysbyty’n gynharach eleni ar 13 Ebrill.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er
mwyn gofyn am ddiweddariad chwarterol ar ba gamau a gymerwyd i recriwtio staff,
a gofyn am ymateb i'r cwestiynau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd. |
|
P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a nododd ganlyniad
cadarnhaol y ddeiseb. Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd, y rhai a lofnododd y
ddeiseb ac ymgyrchwyr lleol am eu cefnogaeth i'r ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb. Wrth gloi'r ddeiseb, roedd y Pwyllgor yn dymuno cofio
Ashley Rogers ac eraill sydd wedi colli eu bywydau’n drasig ar y gyffordd hon
ac anfonwyd eu cydymdeimlad at eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u hanwyliaid. |
|
P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â’r ddeiseb P-06-1362 Dylid darparu
cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15
awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i
ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor
Busnes, cytunodd yr Aelodau, os bydd yr atebion i gwestiynau a godir ynghylch y
ddau ddeisebydd yn cael eu canfod yn y gwaith craffu ar y gyllideb, yna bydd y
cais am ddadl yn cael ei dynnu'n ôl. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn dwyn y ddwy ddeiseb i'w sylw a gofyn iddynt
ystyried y materion a godwyd yn y ddwy ddeiseb yn eu gwaith craffu ar y
gyllideb. |
|
P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â deiseb P-06-1359 Dylid cynnig yr
un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r
hyn sydd ar gael yn Lloegr. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i
ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor
Busnes, cytunodd yr Aelodau, os bydd yr atebion i gwestiynau a godir ynghylch y
ddau ddeisebydd yn cael eu canfod yn y gwaith craffu ar y gyllideb, yna bydd y
cais am ddadl yn cael ei dynnu'n ôl. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn dwyn y ddwy ddeiseb i'w sylw a gofyn iddynt
ystyried y materion a godwyd yn y ddwy ddeiseb yn eu gwaith craffu ar y
gyllideb. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunwyd y
byddai’n cyhoeddi adroddiad ar y dystiolaeth a glywyd yn ymwneud â’r ddeiseb
hon. |